William a Catherine yw Tywysog a Thywysoges newydd Cymru.

Daeth y cyhoeddiad yn ystod anerchiad cyntaf y Brenin Charles III ers dod yn frenin yn dilyn marwolaeth ei fam, Brenhines Lloegr.

Mae William hefyd yn etifeddu teitl Dug Cernyw.

Daw hyn ar ôl i gannoedd o bobol lofnodi deiseb yn galw am ddod â theitl ‘Tywysog Cymru’ i ben, wrth i’r ddeiseb ddweud bod y teitl wedi ei “ddal gan Saeson yn unig fel symbol o oruchafiaeth dros Gymru”.

Dydy’r teitl ddim yn cael ei etifeddu’n awtomatig, ond roedd swyddfa William wedi briffio’r wasg cyn y cyhoeddiad ei fod e’n bwriadu ei dderbyn.

Cafodd y teitl ei roi yn wreiddiol i Edward II, mab Edward I, oedd wedi goresgyn Gymru.

“Mae’r teitl yn sarhad ar Gymru ac mae’n symbol o ormes hanesyddol ac yn awgrymu hefyd fod Cymru yn dywysogaeth o hyd, gan danseilio statws Cymru fel cenedl a gwlad,” meddai awdur y ddeiseb, Trystan Gruffydd.

‘Dim angen tywysog ar Gymru’

Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas hefyd wedi dweud nad oes angen Tywysog ar Gymru.

“Dyw Tywysog Cymru ddim yn swydd gyfansoddiadol,” meddai ar raglen estynedig o Newyddion S4C neithiwr (nos Iau, Medi 8).

“Does yna ddim unrhyw ystyr iddi yn y cyfansoddiad a dw i’n meddwl, er na wneith o ddim digwydd tro yma, dw i’n meddwl y bydd y teitl yma’n diflannu achos dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i wlad ddatganoledig, ddemocrataidd fel Cymru i gael tywysog y dyddiau hyn.

“Dw i’n meddwl bod angen trafodaeth yng Nghymru ynglŷn â be’ ddylai ddigwydd i’r teitl Tywysog Cymru a beth ydy defnydd y teitl, yn enwedig ers pan mae Cymru wedi dod yn weriniaeth newydd, ddemocrataidd.

“Pa synnwyr ydi o i gael Tywysog Cymru sydd heb ddim swyddogaeth gyfansoddiadol yn y sefyllfa yna, ond mater i drafod ydy hynny?”

Cannoedd yn arwyddo deiseb yn galw am ddod â theitl ‘Tywysog Cymru’ i ben

“Mae’r teitl yn sarhad ar Gymru ac mae’n symbol o ormes hanesyddol”