Mae cannoedd o bobol wedi arwyddo deiseb yn galw am ddod â theitl ‘Tywysog Cymru’ i ben.

Dywed y ddeiseb bod y teitl wedi ei “dal gan Saeson yn unig fel symbol o oruchafiaeth dros Gymru”.

Does dim Tywysog Cymru ar hyn o bryd gan i’r cyn-Dywysog Siarl ddod yn Frenin Siarl III yn dilyn marwolaeth ei fam y Frenhines Elizabeth.

Y disgwyl yw mai William fydd Tywysog nesaf Cymru, ond dydy’r teitl ddim yn cael ei etifeddu’n awtomatig.

Mae swyddfa’r Tywysog William eisoes wedi briffio’r wasg ei fod yn bwriadu cymryd y teitl.

Rhoddwyd y teitl yn wreiddiol i Edward II, mab Edward I a oresgynnodd Gymru.

“Mae’r teitl yn sarhad ar Gymru ac mae’n symbol o ormes hanesyddol ac yn awgrymu hefyd fod Cymru yn dywysogaeth o hyd, gan danseilio statws Cymru fel cenedl a gwlad,” meddai awdur y ddeiseb, Trystan Gruffydd.

‘Dim ystyr i’r teitl’

Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas hefyd wedi dweud nad oes angen Tywysog ar Gymru.

“Dyw Tywysog Cymru ddim yn swydd gyfansoddiadol,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas ar raglen estynedig o Newyddion S4C neithiwr (8 Medi).

“Does yna ddim unrhyw ystyr iddi yn y cyfansoddiad a dw i’n meddwl, er na wneith o ddim digwydd tro ’ma, dw i’n meddwl y bydd y teitl yma’n diflannu achos dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i wlad ddatganoledig, ddemocrataidd fel Cymru i gael tywysog y dyddiau hyn.

“Dw i’n meddwl bod angen trafodaeth yng Nghymru ynglŷn â be’ ddylai ddigwydd i’r teitl Tywysog Cymru a beth ydy defnydd y teitl, yn enwedig ers pan mae Cymru wedi dod yn weriniaeth newydd, ddemocrataidd.

“Pa synnwyr ydi o i gael Tywysog Cymru sydd heb ddim swyddogaeth gyfansoddiadol yn y sefyllfa yna, ond mater i drafod ydy hynny?”

Y gwleidydd yng nghynhadledd wanwyn Plaid Cymru yn 2015

Does dim angen Tywysog ar Gymru, medd Dafydd Elis-Thomas

“Pa synnwyr ydi o i gael Tywysog Cymru sydd heb ddim swyddogaeth gyfansoddiadol?”