Mi fydd is-etholiad i’w chynnal yn nhref Llanbedr Pont Steffan ymhen mis i ddewis olynydd i un o hoelion wyth y dref.

Roedd Hag Harris yn un o gymeriadau mawr Llambed a bu yn Gynghorydd Sir yn cynrychioli Llambed ar Gyngor Sir Ceredigion ers 1995. A chyn hynny, bu yn aelod o Gyngor Sir Dyfed ers 1981.

Bu farw Hag Harris – neu Robert George Harris, a rhoi iddo ei enw bedydd – ym mis Mai eleni, a hynny ar ôl cael ei ail-ethol yn ddiwrthwynebiad i fod ar y cyngor sir.

Yn wreiddiol o Coventry, symudodd i dref Llanbedr Pont Steffan er mwyn astudio Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Cymru.

Wedi iddo adael y Brifysgol, ymgartrefodd yn y dref, gan ddysgu Cymraeg yn rhugl a rhedeg ei siop recordiau, Hag’s.

Bu’n weithiwr cymdeithasol am gyfnod, ac roedd yn ddilynwr pêl-droed brwd, gan wasanaethu fel dyfarnwr a swyddog yng nghynghreiriau Cymru.

Roedd yn aelod o Gyngor Ceredigion ers ei sefydlu yn 1995 a chyn hynny, yn aelod o Gyngor Sir Dyfed ers 1981.

Ef oedd yr unig aelod Llafur ar Gyngor Ceredigion, a roedd hefyd yn aelod o Gyngor Tref Llanbed, ac yn Faer presennol y dref.

Is-etholiad

Mi fydd is-etholiad i ddewis cynghorydd sir newydd Llambed yn cael ei gynnal ar ddydd Iau’r chweched o Hydref.

Ac mae gan unrhyw un sydd eisiau gwneud y gwaith tan ddydd Llun yma, 12 Medi, i gyflwyno’r gwaith papur ar gyfer enwebiad.

Mae gan Gyngor Ceredigion 38 o gynghorwyr gydag un o’r rheiny yn cynrychioli tref Llambed.