Mae’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yn dweud nad oes angen Tywysog ar Gymru.

Daw hyn yn dilyn marwolaeth Ei Mawrhydi Elizabeth II, Brenhines Lloegr, ac wrth i Charles ddod yn frenin.

Y disgwyl yw mai William fydd Tywysog nesaf Cymru, ond dydy’r teitl ddim yn cael ei etifeddu’n awtomatig.

Cyhoeddodd y Teulu Brenhinol marwolaeth y frenhines ddoe (dydd Iau, Medi 8).

“Dyw Tywysog Cymru ddim yn swydd gyfansoddiadol,” meddai’r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas wrth raglen Newyddion S4C.

“Does yna ddim unrhyw ystyr iddi yn y cyfansoddiad a dw i’n meddwl, er na wneith o ddim digwydd tro ’ma, dw i’n meddwl y bydd y teitl yma’n diflannu achos dydi o ddim yn gwneud unrhyw synnwyr i wlad ddatganoledig, ddemocrataidd fel Cymru i gael tywysog y dyddiau hyn.

“Dw i’n meddwl bod angen trafodaeth yng Nghymru ynglŷn â be’ ddylai ddigwydd i’r teitl Tywysog Cymru a beth ydy defnydd y teitl, yn enwedig ers pan mae Cymru wedi dod yn weriniaeth newydd, ddemocrataidd.

“Pa synnwyr ydi o i gael Tywysog Cymru sydd heb ddim swyddogaeth gyfansoddiadol yn y sefyllfa yna, ond mater i drafod ydy hynny?”

Datganoli

Er bod Brenhines Lloegr yn erbyn datganoli i Gymru yn y 70au, fe wnaeth hi newid ei meddwl wrth i’r blynyddoedd fynd yn eu blaen, yn ôl yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas.

“Fe ddeallodd hi drwy ei phrofiad yn yr Alban beth oedd yn digwydd yng Nghymru a mi ddywedais i wrthi ar un adeg, “Rydan ni’n benderfynol, mae unrhyw beth sydd wedi digwydd yn yr Alban, mae o’n mynd i gael digwydd yma hefyd, ydach chi’n deall hynna?” meddai.

Dywedodd fod y Frenhines wedi ymateb drwy ddweud ei bod hi’n “deall beth rydach chi’n ddweud, dwi’n deall pam rydach chi’n ei ddweud o.”