Fe wnaeth gweithwyr yng nghanolfan alwadau’r gwasanaethau brys yng Nghymru ateb mwy na 6.4m o alwadau y llynedd – sy’n gynnydd o 13% o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.
Mae lle i gredu bod yr Ewros, tywydd garw a phwysau ychwanegol ar y Gwasanaeth Iechyd wedi cyfrannu at y ffigurau, wrth i dechnoleg newydd hefyd drawsnewid y ffordd mae pobol yn cysylltu â’r gwasanaethau brys.
Mae’r ffigurau wedi cael eu cyhoeddi ar Ddiwrnod 999 heddiw (dydd Gwener, Medi 9).
Mae saith canolfan yn gyfrifol am ateb galwadau 999 yn y Deyrnas Unedig, wrth i ganolfannau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon drosglwyddo galwadau i’r gwasanaeth brys priodol.
Ar draws yr holl ganolfannau hynny, fe wnaeth staff ateb 39.8m o alwadau dros gyfnod o 12 mis yn 2021-22 – cafodd 911,700 o alwadau eu hateb yn ystod mis Gorffennaf, sef y nifer fwyaf erioed mewn un wythnos.
Mae nifer y galwadau mae BT yn ymdrin â nhw wedi codi o ryw 25m yn 2000 i oddeutu 40m yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac mae’r cwmni wedi ymdrin â mwy na 176m o alwadau ers pen-blwydd y gwasanaethau brys yn 80 oed bum mlynedd yn ôl.
24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn
“Mae ein ymgynghorwyr galwadau 999 yn gwneud gwaith gwych 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, yn cefnogi ein gwasanaethau brys,” meddai Jeremy Smithon, Uwch Reolwr Gwasanaethau Llais Uned Fentergarwch BT.
“Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, maen nhw wedi ymdrin â chyfanswm o alwadau 999 sy’n record, sydd wedi’i yrru gan ffactorau sy’n cynnwys twrnament pêl-droed Ewro 2020, y Gwasanaeth Iechyd yn rheoli haint cyfogi dros y gaeaf a phandemig Covid-19.
“Fe wnaeth tueddiadau cynyddol ar gyfer gwyliau gartref hefyd arwain at gynnydd mewn galwadau o amgylch lleoliadau arfordirol a thwristaidd.
“Yn ogystal, fe wnaeth y don o wres, sef y tymheredd uchaf erioed ar gofnod yn y Deyrnas Unedig, arwain at gynnydd mewn galwadau 999, gyda mwy na 3.6m o alwadau wedi’u hateb ym mis Gorffennaf yn unig.”
Technoleg newydd
Mae technoleg newydd hefyd yn cael effaith ar y ffordd mae pobol yn cyfathrebu â’r gwasanaethau brys.
Ers mis Ebrill 2018, mae’n rhaid bod gan bob cerbyd sy’n cael ei gynhyrchu system sy’n galluogi teithwyr i gysylltu â’r gwasanaethau brys yn awtomatig pan fydd gwrthdrawiad neu ddigwyddiad sy’n gofyn am gymorth gan y gwasanaethau brys.
Yn 2018-19, cafodd 1,265 o alwadau o’r fath eu derbyn, ond cododd y ffigwr i 66,792 yn 2021-22.
Fis Mehefin eleni, cafodd ymgynghorwyr galwadau BT hyfforddiant mewn iaith arwyddo (BSL) fel bod modd i bobol fyddar a thrwm eu clyw barhau i gysylltu ag ap neu wefan 999.
Mae clicio ar fotwm brys 999 ar yr ap neu’r wefan yn cysylltu’r unigolyn ag ymgynghorydd sy’n gallu cyfathrebu gan ddefnyddio iaith arwyddo, cyn i’r sawl sy’n gwneud yr alwad gael eu trosglwyddo i’r gwasanaeth brys priodol, wrth i’r ymgynghorydd gyfleu’r neges i’r heddlu, gwasanaeth ambiwlans, gwasanaeth tân neu i wylwyr y glannau yn yr ardal briodol.
“Mae’n hanfodol fod y gwasanaethau brys yn gallu ymateb yn gyflym i sefyllfaoedd brys, ac rwy’n eithriadol o falch o’r gwaith mae BT yn ei wneud i gefnogi’r gwasanaethau hanfodol hyn,” meddai Jeremy Smitham.
“Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi gweld cynnydd parhaus yn nifer y galwadau sy’n cael eu hateb gan ein timau sydd wedi’u hyfforddi’n arbennig.
“Wrth i ni reoli niferoedd cynyddol o alwadau o amryw o wahanol lwyfannau, mae ein hymrwymiad i’r holl wasanaethau brys yn parhau’n ddiwyro, gan sicrhau bod modd iddyn nhw barhau i gysylltu hyd yn oed yn wyneb niferoedd digynsail o alwadau.”