Cafodd pobol ddychwelyd i’w cartrefi yn Aberystwyth neithiwr (nos Iau, Medi 8) yn dilyn ffrwydrad yn y dref.
Cafodd yr heddlu eu galw am oddeutu 7.20 nos Fercher (Medi 7) yn dilyn adroddiadau o sawl clec yn Heol Loveden.
Cafodd dyn 36 oed ei arestio ar amheuaeth o fod â ffrwydron yn ei feddiant, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.
Ar sail cyngor y Weinyddiaeth Amddiffyn, cafodd y stryd ei chau a bu’n rhaid i’r trigolion lleol adael eu cartrefi, tra bod canolfan gymorth wedi’i sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Plas Crug i bobol gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi diogelu’r ardal, ac nad oes rhagor o bryderon am ddiogelwch y cyhoedd.
Mae’r heddlu wedi diolch i’r cyhoedd am eu cydweithrediad.