Mae Elizabeth II, Brenhines Lloegr, wedi marw’n 96 oed.
Daeth cadarnhad o’r newyddion gan Balas Buckingham heno (nos Iau, Medi 8), wrth iddyn nhw gyfeirio at Charles fel Brenin.
“Bu farw’r Frenhines yn dawel yn Balmoral brynhawn heddiw,” meddai datganiad.
“Bydd y Brenin a’r Frenhines Gydweddog yn aros yn Balmoral heno ac yn dychwelyd i Lundain yfory.”
Yn dilyn adroddiadau fore heddiw ynghylch cyflwr y Frenhines, teithiodd aelodau’r teulu i Balmoral yn ystod y prynhawn, oriau’n unig cyn cyhoeddiad Palas Buckingham.
Bywyd
Daeth Elizabeth yn frenhines yn dilyn marwolaeth ei thad, Siôr VI, ar Chwefror 6, 1952.
Does neb wedi teyrnasu am fwy na’i 70 o flynyddoedd ar yr orsedd.
Cafodd ei choroni yn Abaty Westminster ar Fehefin 2, 1953.
Roedd 15 o brif weinidogion y Deyrnas Unedig wrth y llyw yn ystod ei theyrnasiad. Winston Churchill oedd y cyntaf, a dyddiau’n unig yn ôl bu’n cyfarfod â Liz Truss wrth iddi olynu Boris Johnson.
Bu farw ei gŵr, Dug Caeredin, fis Ebrill y llynedd yn 99 oed.
Bydd Charles, eu mab hynaf, yn arwain y cyfnod o alar fydd yn dilyn, ac yntau bellach yn frenin a phennaeth ar 14 o wledydd y Gymanwlad.
Teyrnged y Brenin Charles III
Mewn teyrnged i’r Frenhines, dywedodd ei mab – y Brenin Charles III – fod ei marwolaeth “yn adeg o’r tristwch mwyaf i mi a holl aelodau fy nheulu”.
“Rydym yn galaru’n fawr farwolaeth Sofran annwyl a Mam gariadus iawn,” meddai.
“Rwy’n gwybod y bydd ei cholled yn cael ei theimlo’n ddwys drwy’r wlad, y Teyrnasoedd a’r Gymanwlad, a chan bobol ddi-ri ledled y byd.
“Yn ystod y cyfnod hwn o alar a newid, byddaf fi a’m teulu’n cael cysur a chynhaliaeth o wybod am y parch a’r anwyldeb eang oedd tuag at y Frenhines.”
Teyrnged Prif Weinidog Cymru a’r Llywydd
Mae Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru, wedi cyhoeddi teyrnged.
“Hynod o drist clywed am farwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II,” meddai.
“Fel y Frenhines a deyrnasodd hiraf, cynhaliodd werthoedd a thraddodiadau teulu Brenhinol Prydain.
“Ar ran pobol Cymru, estynnaf ein cydymdeimlad dwysaf â theulu Ei Mawrhydi ar yr adeg drist hon.”
Mewn teyrnged bellach, dywedodd, “Gyda thristwch mawr y mae pobol Cymru’n galaru marwolaeth Ei Mawrhydi y Frenhines Elizabeth II.
“Ar hyd ei hoes a’i theyrnasiad eithriadol o hir, mae Ei Mawrhydi wedi teyrnasu’n gadarn dros y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad, gan gynnal gwerthoedd a thraddodiad Monarchiaeth Prydain.
“Hoffem dalu teyrnged i ymroddiad di-flino ac anhunanol Ei Mawrhydi.
“Bydd hon yn golled fawr i’r holl sefydliadau a oedd dan ei nawdd neu ei llywyddiaeth hi.
“Dyma gynnig ein cydymdeimlad dwysaf i’w phlant a’u teuluoedd ar yr achlysur trist hwn.”
Mae Elin Jones, Llywydd y Senedd, yn dweud iddi deyrnasu ag “urddas a’i hanwylodd i filiynau [o bobol] o amgylch y byd”.
“Teyrnasodd yn ystod cyfnod sydd wedi gweld newid cyfansoddiadau a chymdeithasol mawr yn ein gwlad,” meddai.
“Mynychodd seremoni agoriadol pob Senedd ers ei hagor, gan adlewyrchu ei chydnabyddiaeth o gyfraniad y Senedd hon i fywyd Cymru.
“Bydd y Frenhines yn cael ei chofio am ei hymrwymiad gydol oes i wasanaeth cyhoeddus, gan gynnwys hybu nifer o elusennau a sefydliadau yng Nghymru.
“Mae’r Senedd yn anfon ei chydymdeimlad at ei theulu.”
Teyrngedau eraill o Gymru
Mae arweinwyr pleidiau gwleidyddol Cymru wedi cyhoeddi teyrngedau.
“Mae Grŵp Plaid Cymru yn San Steffan yn estyn ein cydymdeimladau dwysaf â’r Teulu Brenhinol ar yr adeg drist hon,” meddai Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan.
“Mae’i Mawrhydi’r Frenhines wedi sefyll yn gyson trwy gydol ein bywydau yn ystod cyfnod o newidiadau dirfawr yng Nghymru, y Deyrnas Gyfunol a’r byd penbaladr.
“Ymroddodd i’w dyletswyddau ac i wasanaeth cyhoeddus.
“Mae gwerthoedd o’r fath yn annwyl i bobol Cymru.
“Boed iddi gysgu mewn hedd.”
Yn ôl Adam Price, arweinydd Plaid Cymru yn y Senedd, “gwelodd teyrnasiad y Frenhines gyfnod o newid aruthrol i Gymru”.
“Caiff ei chofio fel ffigwr a ddarparodd sefydlogrwydd yn ystod adegau o argyfwng, ynghyd â’i synnwyr o ddyletswydd ddofn.
“Ar ran Plaid Cymru, estynnaf fy nghydymdeimlad dwysaf i’r Teulu Brenhinol.”
Mae Jane Dodds, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, yn dweud ei bod hi’n “drist dros ben”.
“Mae fy meddyliau gyda phlant ac wyrion Ei Mawrhydi a phawb oedd yn agos ati ar yr adeg drist hon,” meddai.
“Heb amheuaeth, mae marwolaeth Ei Mawrhydi yn nodi diwedd pennod hir iawn ac arloesol yn hanes ein cenhedloedd ac i’r rhan fwyaf o bobol, mae ei phresenoldeb wedi bod yn un o’r pethau cyson yn eu bywydau.”
Yn ôl Andrew RT Davies, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, “Does dim cyfuniad o eiriau all wneud cyfiawnder â chyfraniad y Frenhines i hanes Prydain, ac i hanes byd-eang”.
“Trwy gydol cynifer o adegau o ryfel ac argyfyngau, hi oedd y cysondeb hwnnw.”