Mae sychder wedi’i ddatgan drwy Gymru gyfan am y tro cyntaf ers 2005-06.
Y gogledd yw’r ardal ddiweddaraf lle mae sychder “swyddogol” wedi cael ei ddatgan.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru nad oedd glaw diweddar wedi bod yn ddigon i wrthdroi effeithiau tywydd sych am gyfnod hir.
Mae cyflenwadau dŵr hanfodol yn parhau’n ddiogel, meddai Cyfoeth Naturiol Cymru, ond mae’r cyhoedd a busnesau ledled Cymru wedi cael eu hannog i ddefnyddio dŵr yn ddoeth.
Cafodd sychder ei gyhoeddi mewn ardaloedd eraill fis diwethaf.
Cafodd Cymru 56.7% o’i glawiad disgwyliedig yn y chwe mis rhwng Mawrth ac Awst – y trydydd cyfnod mwyaf sych ers dechrau cadw cofnodion ym 1865.
Ym mis Awst, dim ond 38% o’r glawiad misol cyfartalog ddisgynnodd yng Nghymru.
Dyma’r sychder “swyddogol” cyntaf i gael ei ddatgan ar draws Cymru ers 2005-06.
‘Disgwyl i’r statws sychder barhau’
“Ar ôl gwanwyn a haf sych, ac effaith y diffyg glaw dybryd dros gyfnod parhaus ar ein hamgylchedd naturiol, rydym wedi gwneud y penderfyniad i symud Cymru gyfan i statws sychder,” meddai Natalie Hall o Cyfoeth Naturiol Cymru.
“Nid yw’r glawiad a brofwyd ledled y wlad dros yr wythnosau diwethaf wedi bod yn ddigon o bell ffordd i adfer lefelau afonydd, dŵr daear na chronfeydd dŵr.
“Bydd angen i ni weld glawiad parhaus neu lawiad uwch na’r cyfartaledd dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf i weld unrhyw wahaniaeth amlwg.
“Os na chawn ni’r glawiad hwnnw, gallwn ddisgwyl i’r statws sychder barhau mewn llawer o ardaloedd.
“Er bod cyflenwadau dŵr hanfodol yn parhau i fod yn ddiogel, mae’r cyhoedd a busnesau ledled Cymru yn cael eu hannog i ddefnyddio dŵr yn ddoeth a rheoli’r adnodd gwerthfawr hwn ar hyn o bryd.”