Mae codi premiwm tai haf yn gyfle i “wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau”, yn ôl Cymdeithas yr Iaith.

Bydd Cabinet Cyngor Gwynedd yn trafod ymgynghori ar godi treth ychwanegol ar ail dai ac eiddo gwag hirdymor yr wythnos nesaf.

Ond o fis Ebrill 2023, bydd tri dosbarth defnydd cynllunio newydd, sef prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr, ac fe fydd awdurdodau yn gallu mynnu caniatâd cynllunio i newid defnydd o un dosbarth i’r llall, lle mae tystiolaeth bod angen hynny.

Yn ogystal bydd modd i awdurdodau lleol reoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned.

O Ebrill 1 2023, bydd gan awdurdodau lleol y grym i godi premiwm tu hwnt i 100% a hyd at 300%.

Ym mis Mawrth y llynedd, penderfynodd Cyngor Gwynedd godi’r premiwm o 50% i 100%.

O ganlyniad i’r pecyn mesurau mae Llywodraeth Cymru wedi’i gyflwyno, fe fydd cynghorau sir yn gallu gorfodi perchnogion – lle mae ganddyn nhw dystiolaeth – i ofyn am ganiatâd cynllunio ar gyfer newid defnydd eiddo tŷ o un dosbarth i’r llall.

Felly, mewn theori, byddai modd i gyngor sir atal troi cartref parhaol yn dŷ haf mewn ardal lle mae gormod ohonyn nhw.

Fe fydd Llywodraeth Cymru hefyd yn cyflwyno newidiadau i bolisi cynllunio cenedlaethol i alluogi cynghorau sir i reoli nifer yr ail gartrefi a’r llety gwyliau mewn unrhyw gymuned.

Ar ben hynny, mi fydd yna ofyn cyfreithiol i gael trwydded i gynnal llety gwyliau tymor byr.

‘Gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau’

“Rydyn ni wrth gwrs yn falch o weld bod Cyngor Gwynedd yn trafod ymgynghori ar godi premiwm o 300% ar ail dai gan mai yng Ngwynedd mae’r nifer o uchaf o ail dai, ac yn gobeithio y bydd cynghorau eraill ar draws Cymru yn gwneud yr un peth,” meddai Osian Jones o Gymdeithas yr Iaith.

“Ond bydd mesurau eraill ar gael i awdurdodau lleol o fis Ebrill felly dylai’r gwaith paratoi ar gyfer hynny fod yn dechrau nawr.

“Deallwn fod Llywodraeth Cymru’n llusgo eu traed ac nad oes unrhyw ganllawiau nac addewidion o gyllid i gyflawni’r holl waith wedi mynd at awdurdodau lleol.

“Bydd dosbarthu eiddo i gategorïau fel bod modd gweithredu’r cynnig pwysig o fynnu caniatâd cynllunio i newid dosbarth defnydd yn waith sylweddol; fel y bydd y gwaith o gasglu tystiolaeth am yr angen am ganiatâd cynllunio.

“Gallai’r grymoedd yma wneud gwahaniaeth gwirioneddol i’n cymunedau, felly mae angen iddyn nhw fod ar gael i’w defnyddio yn syth.”