Mae’r cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg newydd i 210 o blant yn Nhredegar wedi cael eu cymeradwyo gan gynghorwyr Blaenau Gwent.

Ond cafodd cwestiynau – sydd heb eu hateb o hyd – eu codi yn y cyfarfod o ran sut fyddai staff sy’n siarad Cymraeg yn cael eu recriwtio.

Yng nghyfarfod pwyllgor cynllunio Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent heddiw (dydd Iau, Medi 8), cafodd cynlluniau ar gyfer ysgol gynradd â chyfleusterau gofal plant a meithrinfa ar dir ar Ffordd y Siartwyr eu trafod.

Bydd yr ysgol, ar amcan gost o £6.2m, yn cynnwys ardal ollwng, parcio i staff, lle i fysiau droi, ardaloedd chwarae amlbwrpas, ac adleoli’r maes chwarae presennol.

Mae’r safle tir llwyd wedi cael ei ddefnyddio fel porfa i anifeiliaid, ac mae yna faes chwarae bach arno.

Asesu’r safle

“Wrth ystyried lleoliad addas ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg, cafodd proses asesu safle ei chwblhau gan archwilio nifer o safleoedd yn Nhredegar,” meddai Joanne Whit, y swyddog cynllunio.

“Ystyriwyd safle’r cais fel yr un mwyaf addas ar sail ei leoliad i wasanaethu Tredegar a Glyn Ebwy.”

Eglurodd fod un llythyr o wrthwynebiad wedi’i dderbyn o ran y cais, oedd yn codi materion tagfeydd a llygredd gyda mwy o gerbydau yn yr ardal ac y byddai gofod agored yn cael ei golli.

Dywedodd wrth gynghorwyr ei bod hi’n argymell cymeradwyo’r cais.

“Oes gwir angen ysgol arall arnom ym Mlaenau Gwent?” meddai’r Cynghorydd Malcolm Day.

“Mae dwy ysgol arall ddim yn bell iawn i ffwrdd, ac mae cael athro neu athrawes sy’n siarad Cymraeg yn anodd iawn ar hyn o bryd.

“A oes capasiti yn ein hysgolion i ddarparu addysg Gymraeg yn yr ysgolion sydd gennym eisoes?”

‘Ddim yn cwestiwn o angen’

“Nid ystyriaeth gynllunio faterol mo honno, dydyn ni ddim yma i ddadlau ar fater a oes angen ysgol ai peidio,” meddai’r Cynghorydd Lisa Winnett, cadeirydd y pwyllgor.

“Mater i’r adran addysg yw hynny, a dyna pwy ddylech chi gyflwyno’ch cwestiwn iddyn nhw.”

“Fe fu hir ymaros ar gyfer yr ysgol hon,” meddai’r Cynghorydd David Wilkshire.

Dywedodd y Cynghorydd David Wilkshire fod angen adeiladu 3,600 o dai yn yr ardal yn y dyfodol agos, ac y byddai hyn yn cynyddu’r angen am lefydd mewn ysgolion.

“Mae ein hysgolion wedi cyrraedd eu capasiti, felly mae’n beth da,” meddai.

Cafodd y cais ei gymeradwyo, gydag wyth pleidlais o blaid ac un yn erbyn.

Mae’r ysgol wedi’i disgrifio fel “egin” ysgol, sy’n golygu y byddai’n dechrau â disgyblion blynyddoedd cynnar a derbyn, gan ehangu’n flynyddol fesul blwyddyn ysgol.

Bydd yn cymryd chwe blynedd i’w llenwi ag ysgolion tair i 11 oed.

Bydd adeiladu’r ysgol newydd yn dyblu nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mlaenau Gwent, gan mai Ysgol Gymraeg Bro Helyg yn Nant-y-glo yw’r unig un ar hyn o bryd.

Mae nifer o amodau wedi’u cynnwys yn y caniatâd, ac mae un yn cynnwys fod angen cymeradwyo cais draenio cynaliadwy cyn y gall gwaith adeiladu ddechrau.

Y gobaith yw y bydd modd agor yr ysgol erbyn mis Ebrill 2024.