Bydd Menywod Cryfaf Cymru yn mynd ati i godi 10,791kg o Gerrig Atlas i godi arian i Gymorth i Ferched Cymru Caerdydd ddydd Sadwrn (Medi 10).

Bydd pob kilo sy’n cael ei godi yn cynrychioli’r nifer amcan o 10,791 o fenywod a merched a fydd yn profi camdriniaeth ddomestig a thrais rhywiol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg bob blwyddyn.

Mae’r her wedi’i threfnu gan drydedd Fenyw Gryfaf y Byd, Sam Taylor, a bydd hi ymysg y 18 o Fenywod Cryfaf Cymru a fydd yn cymryd rhan mewn campfeydd yn y de a’r gogledd.

“Fel goroeswr perthynas gamdriniol, dwi mor gyffrous i ddod â Menywod Cryfaf Cymru at ei gilydd am yr her yma,” meddai Sam Taylor.

“Dw i’n gobeithio trwy wneud hyn gallwn ddangos i o leiaf un person mewn pryder bod golau ar ddiwedd y twnnel”.

‘Tîm anhygoel’

Fel Llysgennad Cymorth i Ferched Cymru Caerdydd mae Sam Taylor, sydd yn hanu o’r Fenni ond sydd bellach yn byw yn Aberdâr, yn awyddus i guro eu targed o godi £1,000 a chodi ymwybyddiaeth o gamdrin domestig.

“Pan wnes i roi’r ffigwr yna allan bod 10,791 o fenywod a merched yn profi camdrin domestig a thrais rhywiol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg pob blwyddyn, roedd pobol wedi dychryn.

“Roedd pobol yn cadw holi ‘Ydy hynny yn y Deyrnas Unedig neu dros y byd?”

Wedi bod mewn perthynas camdriniol am bedair blynedd ei hun, mae hi’n angerddol dros helpu merched sydd mewn sefyllfaoedd tebyg.

“Fel mae amser wedi mynd ymlaen mae wedi dod yn glir ’mod i efo’r llais yma i ddefnyddio,” meddai.

“Dw i’n defnyddio fy llais a fy mhroffil fel Menyw Gryfaf Cymru i ledaenu’r neges eich bod chi’n gallu dianc, ac rydych chi’n gallu mynd ymlaen i fod yn rhywun nad oeddech chi erioed wedi meddwl y gallech chi fod.

Er bod Sam yn nerfus am y digwyddiad, mae hi’n falch iawn o’i thîm.

“Mae’n teimlo fel pan rwyt ti’n trefnu parti ac yn ofn nad ydy pobol am droi fyny,” meddai wedyn.

“Ond mae’r merched wedi bod yn anhygoel ac mae gennym ni griw da yn y ddau ddigwyddiad.

“Ond dw i’n gwybod ein bod ni’n gallu gwneud o.

“Maen nhw’n dîm anhygoel felly byddwn ni’n gallu gwneud o heb os.”

Troi at y gampfa i wella iechyd meddwl

Buodd Sam Taylor yn dioddef gyda’i hiechyd meddwl ar ôl gadael y berthynas, ac fe wnaeth hynny arwain at geisio diweddu ei bywyd.

“Ro’n i mewn sefyllfa lle doeddwn i ddim yn gadael y tŷ a ddim yn codi o fy ngwely,” meddai.

“Felly, un diwrnod wnes i benderfynu fy mod i am ymuno efo’r gym er doeddwn i erioed wedi bod i’r gym o’r blaen.

“Roedd o’n gym 24 awr felly ro’n i’n mynd am 1 o’r gloch yn y bore fel bod neb yn fy ngweld, fy ngweld i’n gwneud popeth yn anghywir a syllu…

“Yr holl bethau ti’n poeni am pan ti’n cychwyn mynd i’r gym.

“Roedd o’n cael fi allan o’r tŷ, felly roedd o fel nod bach i osod i fy hun pob dydd.

“Codi, gwisgo a mynd i’r gym, a doedd ddim rhaid i fi ddibynnu ar neb arall.

“Roedd o’n rhywbeth ro’n i’n gallu gwneud ar ben fy hun.”

Ar ôl cwpl o flynyddoedd o adeiladu hyder, ymunodd â champfa wahanol.

Yn fuan iawn, dechreuodd datblygu ei chryfder gyda power lifting.

‘Lle diogel’

Mae Sam Taylor bellach yn berchen ar ei champfa ei hun, Kaos Strength Gym yn Aberdâr, ac mae hi’n gobeithio bod y gampfa’n cynnig ffordd i bobol eraill oresgyn yr hyn maen nhw wedi bod drwyddo.

Er bod y gampfa ar gau i’r cyhoedd, mae’n ganolfan hyfforddiant ac addysg i athletwyr gogledd Lloegr.

Fel hyfforddwr personol, mae Sam Taylor hefyd yn defnyddio’r gampfa gyda’i chleientiaid.

“Mae’n lle hollol ddiogel felly os dw i eisiau dod â rhywun sydd efallai’n newydd i’r gym neu sydd wedi bod trwy gamdrin domestig neu unrhyw fater arall, maen nhw’n gwybod eu bod nhw’n ddiogel,” meddai.

“Ro’n i’n teimlo fel, os wnaeth y gym helpu fi oresgyn beth fues i drwy, gall o helpu pobol eraill.”