Fe fydd biliau ynni cyfartalog cartref yn £2,500 y flwyddyn o fis Hydref, yn ôl Liz Truss.

Dyma her gyntaf Prif Weinidog newydd y Deyrnas Unedig, wnaeth addo mynd i’r afael â’r cynnydd aruthrol mewn costau ynni yn ei hwythnos gyntaf yn y swydd.

Yn ôl ei Llywodraeth, mae’r cynllun yn golygu y bydd y cartref arferol yn arbed £1,000 – tra bod cymorth wedi’i addo i fusnesau a chyrff cyhoeddus hefyd.

Golyga’r uchafswm prisiau ynni fod yna uchafswm ar bob uned o ynni, ond nid ar bob bil.

O ganlyniad, fydd dim uchafswm ar filiau cwmnïau neu wasanaethau cyhoeddus.

Bydd cynllun y ‘Gwarant Pris Ynni’ yn weithredol am ddwy flynedd, gan ddechrau ar Hydref 1.

Roedd disgwyl i filiau ynni domestig gynyddu ar gyfartaledd i £3,549 o fis Hydref.

Fodd bynnag, mae disgwyl i gost pecyn cymorth y Llywodraeth ddod i gyfanswm o ryw £100bn – arian maen nhw’n bwriadu ei fenthyg.

Fydd dim disgwyl i gwsmeriaid ad-dalu’r gefnogaeth, sy’n golygu mai’r trethdalwyr fydd yn talu’r benthyciad yn ôl.

‘Mabwysiadu cynlluniau’r cwmnïau ynni’

Wrth siarad â golwg360, mae Hywel Williams, Aelod Seneddol Arfon, wedi cyhuddo Llywodraeth y Deyrnas Unedig o “fabwysiadu cynlluniau’r cwmnïau ynni”.

“Beth maen nhw’n mynd i’w wneud ydy gwarantu benthyciad i’r cwmnïau ynni er mwyn i rheiny gadw eu prisiau lawr, ac wedyn ein bod ni’n talu’r benthyciad yn ôl dros gyfnod o bump i ddeng mlynedd,” meddai.

“Felly yn y bôn, yr hyn maen nhw’n ei wneud ydy mabwysiadu cynlluniau’r cwmnïau ynni, sef eu bod nhw’n cael gwarant o bris a’n bod ni’n talu.

“Canlyniad hynny ydy y bydd prisiau ynni yn aros yn uchel am bump i ddeng mlynedd wrth i ni dalu’r benthyciad yma’n ôl.

“Dydy pobol ddim yn sylwi hynna eto, y ffaith eu bod nhw’n mynd i fod yn talu a bod y cwmnïau ynni yn cael beth maen nhw eisiau.

“Mae Liz Truss wedi dod i lawr ar ochr y cwmnïau ynni yn lle cefnogi pobol gyffredin.

“Mae o’n rhyfeddol gweld plaid arian saff, fel yr oedden nhw’n cael eu gweld, yn dweud ei bod hi’n amhosibl benthyg arian er mwyn ariannu rhywbeth fel prosiectau cymdeithasol, ond yn barod i fenthyg hyd at £100bn i warantu incwm cwmnïau sydd eisoes yn gwneud elw enfawr.

“Maen nhw’n newid eu daliadau i siwtio nhw eu hunain, dyna ydy o yn y pendraw.

“Dyna sut mae’r Blaid Geidwadol wedi aros mewn grym ers cymaint o amser.”