Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu polisi prydau ysgol am ddim Llywodraeth Cymru.

Dechreuodd y broses o gyflwyno prydau am ddim i bob disgybl mewn addysg gynradd yng Nghymru ddydd Mercher (Medi 7), gyda phlant rhwng pedair a phump yn cael cynnig prydau am ddim o’r mis yma.

Y nod ydy sicrhau bod y rhan fwyaf o ddisgyblion rhwng blwyddyn derbyn a blwyddyn 2 yn cael prydau am ddim erbyn dechrau tymor yr haf 2023.

Ond o dan y cynllun newydd, bydd disgyblion meithrin sy’n mynychu’r ysgol am o leiaf ddwy sesiwn lawn, ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos, yn gymwys am bryd am ddim hefyd.

Fe fydd £35m o gyllid yn cael ei roi tuag at y cynllun, a bydd yn cael ei ddarparu i awdurdodau lleol er mwyn ei ddefnyddio i wneud gwelliannau i gyfleusterau coginio ysgolion.

Mae hwn yn gyllid ychwanegol i’r £25m gafodd ei ddarparu i awdurdodau lleol yn 2021-22.

Fodd bynnag, yn ôl y Ceidwadwyr Cymreig, dyw’r polisi ddim yn gwneud synnwyr economaidd.

‘Gwneud popeth allwn ni’

Wrth gyhoeddi’r cynllun, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, na ddylai’r un plentyn fynd heb fwyd.

“Mae teuluoedd ledled Cymru o dan bwysau aruthrol o achos yr argyfwng costau byw, ac rydyn ni’n gwneud popeth allwn ni i’w cefnogi,” meddai.

“Mae ehangu prydau am ddim i bob ysgol gynradd yn un o nifer o fesurau rydyn ni’n eu cymryd i gefnogi teuluoedd drwy’r cyfnod anodd yma.

“Mae wir yn bleser gweld sut mae ein hysgolion wedi croesawu hyn, a pha mor gyflym y maen nhw a’n gwasanaethau cyhoeddus wedi gweithio gyda’i gilydd i ddechrau darparu prydau ysgol am ddim.”

‘Gwario arian trethdalwyr’

“Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi dadlau yn erbyn y polisi hwn ar y sail ei fod yn golygu gwario arian trethdalwyr ar fwydo plant y rhieni hynny sy’n gallu fforddio prynu bwyd iddyn nhw,” meddai’r Ceidwadwyr Cymreig mewn datganiad.

“Mae’n ymddangos o’r ffigyrau fod cynghorau Sir y Fflint, Gwynedd, Casnewydd a Sir Fynwy yn mynd i orwario, gan flaenoriaethu costau’r cynllun yma gan ddisgwyl y bydd cynnydd yn y gyllideb yn y dyfodol yn talu am y diffygion anochel sydd i ddod.”