Mae ymgyrch wedi’i sefydlu er mwyn codi digon o arian i ddanfon tîm o ynys Santes Helena i Gemau’r Ynysoedd y flwyddyn nesaf.

Bydd y Gemau’n cael eu cynnal ar ynys Guernsey rhwng Gorffennaf 8-14.

Y gobaith yw y bydd modd i dimau gystadlu mewn athletau, golff, nofio a phêl-droed.

Maen nhw’n disgwyl gorfod talu £3,000 y pen i gystadlu yn y Gemau, ac mae Cymdeithas Bêl-droed Guernsey eisoes wedi codi £10,000.

Mae Banc Santes Helena hefyd wedi cytuno i noddi’r cit ar gyfer yr holl gampau.

Pe bai’r ymgyrch codi arian yn llwyddiannus, y gobaith yw y bydd modd anfon 35 o athletwyr o bedair camp i’r Gemau, ac mae’r ymgyrchwyr yn dweud bod chwaraeon yn rhan hollbwysig o fywyd ar yr ynys.

“[Chwaraeon] yw ein diddordeb mwyaf arwyddocaol mewn lle sydd ag adnoddau prin,” meddai’r dudalen GoFundMe sydd wedi cael ei sefydlu.

“Gyda Santes Helena’n cael y cyfle i gystadlu ar lwyfan y byd, mae’n rhoi rhywbeth i’n pobol ifanc ymgyrraedd ato.

“Helpwch i gadw’r freuddwyd yn fyw.”