Mae Undeb Rygbi Cymru wedi derbyn beirniadaeth am ei ddiweddariad polisi cyfranogiad rhywedd sy’n golygu na fydd merched trawsryweddol yn cael cymryd rhan yn y gêm.

Daeth y cyhoeddiad neithiwr (nos Fercher, Medi 7) fod bwrdd Undeb Rygbi Cymru wedi pleidleisio i basio’r polisi diwyiedig sydd yn cyd-fynd â safiad Undeb Rygbi Iwerddon a’r Undeb Rygbi Pêl-droed yn Lloegr.

Mae’r polisi newydd yn golygu bod rygbi cyswllt ar gyfer chwaraewyr yn y categori merched wedi’i gyfyngu i’r rhai y cofnodwyd eu rhyw fel benyw pan gawson nhw eu geni.

Mae hyn yn wahanol i’r polisi blaenorol, a oedd yn caniatáu i ferched trawsryweddol gymryd rhan yn y gêm yn dibynnu ar ganlyniad proses feddygol drylwyr, gan gynnwys profion testosteron.

Dywed y corff fod ymchwil yn ddiweddar yn darparu tystiolaeth bod gwahaniaethau corfforol rhwng y rhai y neilltuwyd eu rhyw yn wrywaidd  a’r rhai benywaidd ar enedigaeth.

Maen nhw’n dweud bod manteision cryfder, stamina a chorffolaeth sy’n cael eu hachosi gan lasoed gwrywaidd yn sylweddol ac yn cael eu cadw hyd yn oed ar ôl ataliad testosteron.

Mae’r Undeb yn dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i adolygiad parhaus o’r polisi wrth i dystiolaeth, ymchwil a mewnwelediadau newydd ddod i’r amlwg.

Does yna’r un chwaraewyr trawsryweddol cofrestredig yng ngêm y merched yng Nghymru ar hyn o bryd.

‘Condemnio penderfyniad’

Mae Plaid Cymru wedi cyhoeddi datganiad yn condemnio’r penderfyniad gan Undeb Rygbi Cymru i osod gwaharddiad blanced ar ferched traws ym myd rygbi elît yng Nghymru.

Yn eu datganiad ar y cyd, dywedodd Heledd Fychan AS – llefarydd dros Ddiwylliant a Chwaraeon, a Sioned Williams AS – llefarydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb fod “penderfyniad Undeb Rygbi Cymru i wahardd athletwyr traws yn anghywir, gan ystyried y nifer fach iawn o athletwyr traws sy’n cystadlu yn gyffredinol mewn chwaraeon, a’r ffaith bod yna ddim athletwyr traws wedi eu cofrestru yn y gêm Gymreig”.

“Mae’r adwaith yn gorymateb i fater sydd â goblygiadau ehangach i’r Cymru gynhwysol rydym am ei gweld,” meddai’r ddwy.

“Datrysiad yw i broblem sydd ddim yn bodoli.

“Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ofyn am drafodaethau brys gydag Undeb Rygbi Cymru ar y mater hwn yn unol â nodau’r Cynllun Gweithredu LHDTC+, sy’n rhan o’r cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

“Roedd y dull blaenorol – o ystyried pob athletwr fesul achos – yn llawer mwy cynhwysol a synhwyrol, a byddem yn annog URC i ailystyried ar frys.

“Mae’r ffordd y mae menywod traws yn cael eu heithrio gan gyrff chwaraeon ar draws y DU yn annog rhai sy’n defnyddio chwaraeon fel gorchudd ar gyfer eu trawsffobia a rhagfarn.

“Mae gan chwaraeon rôl allweddol wrth hyrwyddo adlewyrchiad cynhwysol, amrywiol o ddinasyddion ein byd, gan gynnwys athletwyr traws.

“Dylai cyrff chwaraeon wneud mwy i hyrwyddo cyfranogiad LHDTC+ mewn chwaraeon, fel rhan o ymdrech ehangach tuag at ffyrdd mwy iach o fyw, yn enwedig o ystyried y problemau iechyd meddwl a chyfraddau hunanladdiad i bobl draws.”

‘Pell iawn o uchelgeisiau Llywodraeth Cymru’

Mae’r Undeb wedi derbyn beirniadaeth ar Twitter wrth i gannoedd o bobol ymateb.

“Mae eithrio pobol draws o chwaraeon yn bell iawn o uchelgeisiau @LlywodraethCym i fod y genedl fwyaf LDHTC+ gyfeillgar yn Ewrop,” meddai Rhys Taylor, arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Caerdydd.

“All @WelshRugbyUnion egluro beth o ran ystyried pob unigolyn sydd mor amhosib i barhau ag e?”

Dywed Leena Farhat, aelod arall o’r blaid a chynghorydd tref dros Lanfairfechan, ei fod yn “benderfyniad ofnadwy”.

“Mae rhywedd yn sbectrwm ac os yw #Cymru eisiau bod yn genedl agored a goddefgar, mae angen i ni sefyll gyda’n brodyr a’n chwiorydd traws a gwrthsefyll y penderfyniad diffygiol hwn gan URC. #hawliautraws”

Mae rhai hefyd wedi ymrwymo i ganslo neu beidio adnewyddu eu haelodaeth o’r Undeb ac yn gwrthod prynu tocynnau i gemau’r dyfodol.

“Ni fyddaf yn adnewyddu fy aelodaeth swyddogol o URC nac yn prynu unrhyw docynnau Cymru tra bydd y polisi gwaharddol hwn yn ei le,” meddai un ar Twitter.

“Mae’n greulon, yn ddiangen, ac yn llwfr.

“Mae gen i gywilydd ohonoch chi – a dylech chi fod â chywilydd ohonoch chi’ch hunain.”

“Siomedig iawn bod undeb fy ngwlad wedi gwneud hyn a heb fod â’r perfedd i wneud cyhoeddiad iawn hyd yn oed,” meddai un arall.

“Ni fyddaf yn adnewyddu fy aelodaeth.”

‘Categori i bawb ei chwarae’

Ond mae eraill wedi croesawu’r penderfyniad, gan gynnwys Tonia Antoniazzi, Aelod Seneddol Llafur Gŵyr.

“Fel cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Cymru, hoffwn ddiolch i Fwrdd Gweithredol Undeb Rygbi Cymru am y penderfyniad hwn,” meddai.

“Yn 50 oed, rwy’n chwarae rygbi cyffwrdd cymysg a rygbi cyn-filwyr, mae categori i bawb ei chwarae.

“Diogelwch a thegwch mewn chwaraeon yw’r allwedd i gynyddu cyfranogiad.”