Mae Morgannwg yn ail yn ail adran y Bencampwriaeth, ar ôl i’w gêm yn erbyn Swydd Gaerwrangon orffen yn gyfartal yng Nghaerdydd.
Dim ond 55 munud o griced oedd yn bosib ar y diwrnod olaf o ganlyniad i’r glaw, ac mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn codi i’r ail safle yn y tabl, gyda dau dîm yn cael ennill dyrchafiad ar ddiwedd y tymor.
Ond mae’n rhaid iddyn nhw herio Middlesex yn eu gêm nesaf, gyda dim ond un o’r ddwy sir yn debygol o ennill dyrchafiad gan fod Swydd Nottingham ymhell ar y blaen ar y brig.
Mae Morgannwg saith pwynt ar y blaen i Middlesex erbyn hyn.
Cipiodd Ben Gibbon a Dillon Pennington bedair wiced yr un, tra bod Chris Cooke wedi taro hanner canred i’r sir Gymreig.
Manylion
Dechreuodd Morgannwg y diwrnod olaf yn targedu rhagor o bwyntiau bonws ac o leiaf gêm gyfartal, ac roedd angen iddyn nhw sgorio 305 er mwyn osgoi canlyn ymlaen.
Cipiodd Morgannwg ail bwynt bonws batio gyda Cooke ac Ajaz Patel wrth y llain wrth iddyn nhw fynd heibio 250, ond cipiodd Gibbon bedwaredd wiced wrth i Patel ddarganfod dwylo diogel y wicedwr Ben Cox.
Yn y pen draw, roedd Morgannwg i gyd allan am 295, wrth i Michael Hogan roi daliad i Tom Haynes ar ochr y goes oddi ar fowlio Pennington.
Bu’n rhaid i Forgannwg ganlyn ymlaen, ond dim ond naw pelen wynebodd David Lloyd ac Eddie Byrom cyn i’r glaw ddod i roi terfyn ar y gêm.
Ail Adran y Bencampwriaeth – sut mae’r tabl yn edrych?
- Swydd Nottingham – wedi chwarae 12 gêm, 215 o bwyntiau
- Morgannwg – wedi chwarae 11 gêm, 172 o bwyntiau
- Middlesex – wedi chwarae 11 gêm, 165 o bwyntiau
- Swydd Derby – wedi chwarae 11 gêm, 155 o bwyntiau