Sgoriodd Gareth Roderick 172 heb fod allan, sgôr dosbarth cyntaf gorau ei yrfa, wrth i Swydd Gaerwrangon bentyrru’r pwysau ar Forgannwg wrth i’r sir Gymreig geisio dyrchafiad i adran gynta’r Bencampwriaeth y tymor nesaf.

Ar yr ail ddiwrnod yng Nghaerdydd, sgoriodd yr ymwelwyr 454 am naw cyn cau’r batiad ar ddiwrnod digon rhwystredig a gafodd ei effeithio’n sylweddol gan y glaw.

Erbyn diwedd y dydd, roedd Morgannwg yn 107 am ddwy yn eu batiad cyntaf.

Record o bartneriaeth

Ar ôl oedi o chwarter awr, dechreuodd Swydd Gaerwrangon yr ail ddiwrnod ar 285 am saith ond dim ond wyth pelen oedd yn bosib cyn i’r glaw ddod eto.

Ac eithrio un cyfle cynnar am wiced, pan aeth y bêl rhwng y wicedwr a’r slip, ychydig iawn o gyfleoedd gafodd Morgannwg yn ystod sesiwn y bore i gipio wiced, wrth i Joe Leach a Roderick wrthsefyll bowlio digon cyffredin ar y cyfan.

Cyrhaeddodd Roderick ei ganred a Leach ei hanner canred cyn cinio, ac erbyn yr egwyl roedd y naill ar 132 heb fod allan a’r llall ar 59 heb fod allan yn dilyn sawl cawod o law yn ystod y sesiwn, wrth i Swydd Gaerwrangon gyrraedd 372 am saith erbyn yr egwyl.

Erbyn diwedd y bartneriaeth, pan gafodd Leach ei ddal yn sgwâr ar ochr y goes gan Billy Root oddi ar fowlio James Harris am 87, roedd Roderick a Leach wedi torri’r record am y bartneriaeth wythfed wiced orau erioed i’r sir yn erbyn Morgannwg – 167 – gan guro ymdrechion Richard Illingworth a John Inchmore yng Nghaerwrangon yn 1982.

Cafodd Dillon Pennington ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio Timm van der Gugten, oedd wedi gorffen gyda phedair wiced am 81, wrth i Swydd Gaerwrangon gau’r batiad ar 454 am naw yn fuan ar ôl y wiced.

Batiad Morgannwg

Bedair pelawd yn unig gymerodd hi i Forgannwg golli eu wiced gyntaf, wrth i’r capten David Lloyd gael ei ddal gan Jack Haynes oddi ar fowlio Ben Gibbon i adael Morgannwg yn 21 am un wrth i Shubman Gill ddod i’r llain am y tro cyntaf, ac erbyn te roedd y sir Gymreig yn 59 am un, ac yn 61 am un yn fuan wedyn pan ddaeth y glaw eto.

Erbyn i’r chwaraewyr ddychwelyd i’r cae, roedd 14 pelawd gwerthfawr wedi’u colli wrth i Forgannwg geisio sgorio pwyntiau bonws wrth anelu am ddyrchafiad ar ddiwedd y tymor, ond doedd hi ddim yn hir cyn i Eddie Byrom gyrraedd ei hanner canred oddi ar 51 o belenni wrth geisio gosod seiliau’r batiad.

Doedd hi ddim yn hir chwaith cyn i’r chwaraewyr orfod gadael y cae unwaith eto, gyda dim ond chwe phelawd yn bosib rhwng cawodydd trwm.

Erbyn i’r glaw gilio, deg pelawd oedd yn weddill wrth i’r gêm ddechrau eto am 5.50yh.

3.3 pelawd oedd yn weddill pan gollodd Morgannwg ail wiced eu batiad, wrth i Byrom gael ei ddal gan y wicedwr Ben Cox oddi ar fowlio’r bowliwr cyflym llaw chwith Ben Gibbon am 67, a Morgannwg yn 103 am ddwy.

Sgorfwrdd: https://www.espncricinfo.com/series/county-championship-division-two-2022-1310355/glamorgan-vs-worcestershire-1297764/full-scorecard

Timm van der Gugten

Swydd Gaerwrangon yn brwydro’n ôl ar ôl wicedi cynnar Timm van der Gugten i Forgannwg

Mae Gareth Roderick ar drothwy ei ganred i’r ymwelwyr ar ddiwedd y diwrnod cyntaf yng Nghaerdydd

Y ras i ennill dyrchafiad yn dechrau i Forgannwg yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd

Mae gan y sir Gymreig bedair gêm Bencampwriaeth i sicrhau eu bod nhw’n codi i’r Adran Gyntaf y tymor nesaf