Fe wnaeth merched pêl-droed Cymru sicrhau eu lle yng ngemau ail gyfle Cwpan y Byd neithiwr (nos Fawrth, Medi 6), yn dilyn gêm ragbrofol gyfartal ddi-sgôr yn erbyn Slofenia yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Roedd pwynt yn ddigon i sicrhau eu lle, ac fe wnaethon nhw hynny gerbron torf o 12,471 – sy’n record yng ngêm y merched yng Nghymru – gan sicrhau eu bod nhw’n cyrraedd cystadleuaeth fawr am y tro cyntaf erioed.
Roedd angen i dîm Gemma Grainger atal Slofenia rhag cael buddugoliaeth wrth iddyn nhw hefyd gwrso’u lle yn y gystadleuaeth.
Cafodd Cymru gryn drafferth wrth geisio rheoli Mateja Zver, capten Slofenia, wrth iddi ddod yn agos at sgorio sawl gwaith yn gynnar yn yr ornest.
Ond cafodd Cymru ddigon o gyfleoedd eu hunain, wrth i Carrie Jones greu argraff a bu’n rhaid i Zala Maršnik weithio’n galed yn y gôl i’w hatal hi ac Angharad James, oedd wedi ennill ei chanfed cap ar y noson.
Daeth cyfle gorau Cymru oddi ar gic gornel wrth i Gemma Evans redeg at y bêl am beniad wrth iddi ddarganfod gofod yn y cwrt cosbi, a bu’n rhaid i Maršnik wneud arbediad campus.
Bydd Cymru’n darganfod eu gwrthwynebwyr cyn bo hir, wrth iddyn nhw geisio ennill eu lle ar yr awyren i Awstralia a Seland Newydd ym mis Mehefin a Gorffennaf 2023.
“Mae’n foment arbennig iawn [i ennill canfed cap],” meddai Angharad James.
“Roedden ni’n canolbwyntio ar gael y pwynt, ond nawr bydda i’n mwynhau’r eiliad gyda chyd-chwaraewyr a fy nheulu.
“Mae hwn i fy nheulu heno. Fe wnaethon nhw fy nghefnogi o’r diwrnod cyntaf. Alla i ddim diolch digon iddyn nhw.
“Mae Gemma Grainger wedi rhoi llawer o hyder i ni. Gallech chi weld y gred allan yna heddiw.
“Gobeithio bod llawer mwy i ddod.”