Cymru fydd y “ffefrynnau” pan fyddan nhw’n herio Gwlad Groeg yn eu gêm olaf ond un yn yr ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd, medd Sophie Ingle.

Bydd y gic gyntaf am chwech o’r gloch nos Wener (Medi 2), gyda’r gêm yn cael ei chynnal yn Stadiwm Panthessaliko.

Fe fydd pedwar pwynt o’r gemau yng Ngwlad Groeg a gartref yn erbyn Slofenia ddydd Mawrth nesaf yn ddigon i anfon Cymru i’r gemau ail gyfle wrth ddod yn ail yng Ngrŵp I.

Ar hyn o bryd, mae Cymru yn ail yn y grŵp gydag 16 o bwyntiau, tra bod Slofenia yn drydydd ar 14 pwynt a Gwlad Groeg yn bedwerydd gydag 13 o bwyntiau.

Enillodd merched Gemma Grainger o 5-0 pan ddaeth Groeg i Lanelli fis Tachwedd y llynedd.

A does gan y rheolwr ddim problemau anafiadau newydd yn ei charfan o 26 wrth iddi geisio arwain merched Cymru i dwrnament rhyngwladol am y tro cyntaf erioed.

Ffefrynnau

“Byddwn i’n dweud mai ni yw’r ffefrynnau, ddylen ni ddim bod ofn meddwl fel yna, ond rydyn ni’n gwybod y bydd hi’n gêm anodd iawn,” meddai Sophie Ingle.

“Mae’n debyg y bydd gennym ddigonedd o’r bêl ac mae angen i ni fwynhau hynny.”

Mae Sophie Ingle wedi bod yn rhan o ymgyrchoedd aflwyddiannus yn y gorffennol, ond mae’n teimlo bod y garfan wedi tyfu a gwella, ac yn barod i gymryd y cam nesaf.

“Mae yna lot o elfennau yn dylanwadu ar gemau pêl-droed, ac mae’n debyg mai meddylfryd yw’r prif un,” meddai.

“Yn y gorffennol, fe ddywedon ni ein bod ni’n credu y gallen ni gymhwyso ond a oedden ni wir yn ei olygu?

“Rwy’n credu nawr bod y garfan yn credu y gallwn gystadlu yn erbyn y timau gorau.”