Bydd grantiau o hyd at £10,000 yn cael eu cynnig gan Gyngor Celfyddydau Cymru i artistiaid, sefydliadau celfyddydol ac eraill er mwyn dathlu llwyddiant tîm pêl-droed Cymru wrth gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni.

Nod ychwanegol y grantiau yw ymgysylltu â chymunedau’r wlad trwy brosiectau sy’n hyrwyddo blaenoriaethau’r Cyngor Celfyddydau wrth ddathlu Cwpan y Byd, ac maem nhw am weld “prosiectau celfyddydol uchelgeisiol ac o safon yng Nghymru benbaladr i gysylltu grwpiau cymunedol, sefydliadau celfyddydol a thimau a chymdeithasau chwaraeon”.

Bydd y prosiectau’n cyrraedd cymunedau ac yn hyrwyddo’r Wal Goch a thrwy gydweithio, bydd y gwaith yn dangos Cymru amrywiol, gynhwysol a dwyieithog.

Gallai’r prosiectau fod gan sefydliadau celfyddydol a grwpiau profiadol sydd am gydweithio â grwpiau cymunedol, clybiau chwaraeon a’r gymuned ehangach.

Mae’r Cyngor Celfyddydau’n gwahodd ceisiadau rhwng Medi 5 a Hydref 10 ar thema Cwpan y Byd a’r Wal Goch.

Rhwng Hydref 20 a Rhagfyr 4 fydd y prosiectau’n digwydd.

Dywed y Cyngor Celfydyddau eu bod nhw’n cefnogi amcanion Llywodraeth Cymru o ran Cwpan y Byd, sef hybu Cymru, cyflwyno eu gwerthoedd, diogelu cefnogwyr Cymru yn y digwyddiad a sicrhau gwaddol i’r dathliadau.

Balchder, a phrosiect “i uno ein pobol a’n cymunedau”

“Ar 5 Mehefin 2022, cymhwysodd Cymru i Gwpan y Byd ym maes pêl-droed i ddynion,” meddai Lleucu Siencyn, Cyfarwyddwr Datblygu Celfyddydau’r Cyngor.

“Dyma’r tro cyntaf ers 1958 ac mae cyffro mawr ar draws y wlad.

“Mae’n stori hudolus ac yn destun balchder cenedlaethol.

“Mae’r balchder yna’n treiddio drwy ein cymunedau, ein gweithleoedd, ein hysgolion a’n strydoedd.

“Mae gan y digwyddiad y grym i uno ein pobol a’n cymunedau.

“Dyma’r cyfle perffaith i’r celfyddydau, diwylliant a chwaraeon ddod at ei gilydd i adrodd ein stori a chreu dathliadau o’n hundod a’n cydweithio.

“Sail cronfa Creu yw ymrwymiad y Cyngor i gydraddoldeb, amrywiaeth, y Gymraeg a thalent greadigol.

“Drwy ariannu profiadau artistig o safon, gallwn gyrraedd yn ehangach a dyfnach i bob un o’n cymunedau.”