Dydy’r rheithgor yn achos llys Ryan Giggs, cyn-reolwr a chyn-chwaraewr tîm pêl-droed Cymru, ddim wedi gallu dod i benderfyniad yn ei achos llys.

Mae disgwyl i Wasanaeth Erlyn y Goron benderfynu a fydd e’n wynebu ail achos, ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ymosod ac ymddygiad oedd yn rheoli ei gyn-gariad Katie Greville.

Roedd y dyn 48 oed wedi’i gyhuddo o daro’i gyn-gariad â’i ben a tharo chwaer ei gyn-gariad yn ei hwyneb â’i benelin, a hynny yn dilyn ffrae yn ei gartref ym Manceinion Fwyaf fis Tachwedd 2020.

Roedd e hefyd wedi’i gyhuddo o geisio rheoli Katie Greville yn ystod eu perthynas rhwng 2017 a 2020.

Roedd e’n gwadu’r holl gyhuddiadau drwy gydol yr achos ym Manceinion oedd wedi para tair wythnos.

Bu’n rhaid i un aelod adael y rheithgor yng nghanol yr achos oherwydd salwch.

Clywodd y llys fod eu perthynas wedi dirywio yn ystod cyfyngiadau Covid-19, a bod yna “ganlyniadau” pe na bai Katie Greville yn gwneud yr hyn roedd Ryan Giggs yn gofyn iddi ei wneud.

Yn ôl Ryan Giggs, doedd e byth yn ymosodol tuag ati, a dywedodd ei gyfreithwyr fod yr honiadau’n “gelwydd” ac yn “orddweud”.