Mae tîm pêl-droed yn yr Alban wedi hysbysebu eu gêm yn erbyn Caernarfon yn Saesneg a Chymraeg ar Twitter.

Bydd Clyde FC yn croesawu tîm y Cofis i New Douglas Park yn Glasgow am 3 o’r gloch ddydd Sadwrn, Medi 24 yng Nghwpan yr SPL Trust.

Bydd y Seintiau Newydd hefyd yn herio Dundee, oedd wedi gostwng o Uwch Gynghrair yr Alban yn ddiweddar ac sy’n chweched yn y tabl ar hyn o bryd.

Dyma’r tro cyntaf i dimau Cymru gystadlu ers dwy flynedd o ganlyniad i’r pandemig Covid-19, ar ôl i dimau o’r tu allan i’r Alban gael eu gwahardd o ganlyniad i gyfyngiadau teithio.