Mae cyd-berchennog Wrecsam, Ryan Reynolds, wedi beirniadu penderfyniad y Gynghrair Genedlaethol i wahardd clybiau rhag ffrydio eu gemau.

Dywed Ryan Reynolds fod y penderfyniad i wahardd clybiau rhag ffrydio gemau naill ai’n ddomestig neu’n rhyngwladol yn “wirioneddol ddryslyd”.

Yn ôl yr actor, mae’r penderfyniad yn golygu bod y clybiau’n colli cyfle i gynyddu eu refeniw a denu cefnogwyr a chynulleidfa newydd.

Daeth sêr Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn berchnogion ar y clwb fis Chwefror y llynedd.

Penderfyniad ‘wirioneddol ddryslyd’

Wrth ysgrifennu ar Twitter, dywedodd Ryan Reynolds: “Ar ôl misoedd o ymdrech fawr, mae’r penderfyniad (o ganlyniad i ddiffyg gweithredu Cynghrair Genedlaethol Vanarama) i beidio â chaniatáu i gemau Wrecsam a’r clybiau eraill yn y gynghrair gael eu ffrydio yn ddomestig/rhyngwladol yn wirioneddol ddryslyd, gan amddifadu pob un tîm yn ein cynghrair rhag y cyfle i ddenu mwy o gefnogwyr nag ychwanegu at refeniw’r gynghrair [fyddai] o fudd i bawb.

“Mae hwn yn gyfle a gofynnwn i Gynghrair Genedlaethol Vanarama ei gymryd.”

Galwodd Reynolds hefyd ar noddwyr y gynghrair, Vanarama a BT Sport, “i’w helpu i ddod o hyd i’r doethineb” a’u helpu i newid y rheolau.