Mae adroddiadau bod Ethan Ampadu ar ei ffordd i glwb Spezia yn yr Eidal ar fenthyg.

Bydd munudau ar y cae yn hollbwysig i’r amddiffynnwr a chwaraewr canol cae amddiffynnol sy’n chwarae i Chelsea, ond sydd wedi’i chael hi’n anodd sicrhau ei le yn y tîm ar drothwy Cwpan y Byd yn y gaeaf, ac mae hynny’n debygol o barhau gyda chwaraewyr newydd ar eu ffordd i’r clwb.

Yn ôl adroddiadau, gallai’r cytundeb i’w ddenu’n ôl i’r Eidal, lle bu’n chwarae i Venezia y tymor diwethaf, gynnwys opsiwn i’w brynu’n barhaol am £12m.

Mae Ampadu eisoes wedi cael rhybudd gan Rob Page, rheolwr Cymru, fod angen iddo fe chwarae’n fwy rheolaidd os yw e am ennill ei le ar yr awyren i Qatar.

Mae e wedi ennill 36 o gapiau dros Gymru.

Luke Harris

Yn y cyfamser, gallai absenoldeb Harry Wilson oherwydd anaf arwain at alwad annisgwyl i garfan Cymru i Luke Harris.

Mae’r chwaraewr canol cae ymosodol 17 oed wedi bod ar y fainc dair gwaith allan o bedair i Fulham y tymor hwn.

Daeth ei gêm gyntaf yng Nghwpan Carabao yn erbyn Crawley.

Mae gan Gymru gemau yn erbyn Gwlad Belg a Gwlad Pwyl fis nesaf.