Bydd ennill Rali Bae Ceredigion am yr ail waith yn olynol yn hwb sylweddol i obeithion Osian Pryce o ennill Pencampwriaeth Ralio Prydain eleni.
Enillodd y Cymro Cymraeg o Fachynlleth y ras y tro cyntaf – a’r tro diwethaf – iddi ddod i Fae Ceredigion yn 2019, ond dyma’r tro cyntaf iddi gael ei chynnwys fel rhan o Bencampwriaeth Ralio Prydain.
Mae Pryce yn ail yn y bencampwriaeth ar hyn o bryd, ac fe fydd e’n un o’r ffefrynnau i ennill y ras ar ei domen ei hun yn Aberystwyth, dafliad carreg o’i gartref yn y canolbarth.
Dim ond tair ras sydd ar ôl eleni, ac mae e 18 pwynt y tu ôl i’r Gwyddel Keith Cronin ar y brig, ond cael a chael yw hi o gofio bod modd i’r gyrwyr ollwng eu dau sgôr gwaethaf yn y Bencampwriaeth fel mai dim ond pum sgôr allan o saith sy’n cyfri, a dyw’r Cymro ddim eto wedi chwarae ei ‘jocar’ am bwyntiau uchel.
Mae’r cyfan yn golygu ei fod e mewn sefyllfa gref ar gyfer y ddwy ras olaf ar y graean.
“Ar ôl ennill Rali Ceredigion tro dwytha’ iddi gael ei rhedeg yn 2019, mae o’n rhoi lot o hyder i mi wrth fynd i mewn i’r digwyddiad eleni, er ei bod hi’n her dipyn mwy y tro hwn yn nhermau milltiroedd y cymal a’r gystadleuaeth o safon uchel,” meddai.
“Y tro dwytha’, roedd y rali’n dipyn o hwyl a thra ein bod ni bob amser yn mynd allan i ennill yn fwy na dim, mae yna ychydig mwy o bwysau arnon ni i ddod adre’ efo’r pwyntiau mwyaf ym Mhencampwriaeth Ralio Prydain. Dyna’r nod yn sicr y tro hwn.
Y ras
Mae Rali Bae Ceredigion dipyn mwy, yn hirach ac yn fwy o her eleni.
Mae’n cael ei rhedeg dros ddau ddiwrnod a 12 o gymal, gan gynnwys dwy yn y nos, dros bellter o 86.88 milltir.
Bydd y ras yn dechrau gyda dwy daith o amgylch tref Aberystwyth, ac wedyn fe fydd dau gymal ar yr heolydd caëedig cyfagos gan gynnwys rhywfaint o rasio yn y nos.
Bydd yr ail ddiwrnod yn cynnwys wyth cymal – dau gylchred o bedwar cymal yr un – gan fynd yn syth i Lanfihangel, y cymal hiraf yn y ras.
Bydd y seremoni derfynol ar y prom yn Aberystwyth am 4 o’r gloch ar ddydd Sul.
Darllenwch gyfweliad llawn gydag Osian Pryce yng nghylchgrawn golwg yr wythnos nesaf.