Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn dweud eu bod nhw “wedi siomi” ar ôl colli apêl mewn perthynas ag Emiliano Sala.

Fe fu ffrae rhwng yr Adar Gleision a chlwb Nantes yn Llydaw ynghylch pwy oedd yn ei gyflogi adeg ei farwolaeth mewn damwain awyr fis Ionawr 2019.

Roedd e’n teithio rhwng Caerdydd a Nantes pan blymiodd yr awyren oedd yn ei gludo i’r môr, gan ladd y peilot David Ibbotson hefyd.

Yn ôl Caerdydd, dydy’r penderfyniad mai eu chwaraewr nhw oedd e ddim yn ateb “y cwestiwn hanfodol ynghylch cyfrifoldeb FC Nantes (a’u hasiantiaid) am y gwrthdrawiad”.

Mae’r clwb yn dweud eu bod nhw’n “disgwyl apelio unwaith mae cyfreithwyr y clwb wedi deall y rhesymau am y penderfyniad”, ac maen nhw’n dweud na fyddan nhw’n talu unrhyw swm o arian i Nantes yn y cyfamser.

Ond pe bai’n rhaid i Gaerdydd dalu’r arian yn y pen draw, maen nhw’n dweud y byddan nhw’n cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y sawl oedd yn gyfrifol am y gwrthdrawiad, ac y “bydd hyn yn cynnwys FC Nantes a’u hasiantiaid”.

Maen nhw’n dweud bod eu meddyliau gydag Emiliano Sala a’i deulu o hyd.

“Dim gwirionedd” bod Clwb Pêl-droed Caerdydd yn hawlio iawndal gan FC Nantes

Mae’r honiadau’n “gwbl ffals” meddai’r clwb mewn datganiad