Does “dim gwirionedd” yn yr adroddiadau bod Clwb Pêl-droed Caerdydd yn hawlio iawndal gwerth £80m gan Glwb Pêl-droed Nantes tros farwolaeth Emiliano Sala, meddai’r Adar Gleision mewn datganiad.

Yn ôl adroddiadau yn y wasg Brydeinig, mae’r Adar Gleision wedi hawlio £80m gan y clwb yn Llydaw, gan gredu bod marwolaeth yr Archentwr mewn damwain awyren wedi arwain at eu cwymp o Uwch Gynghrair Lloegr.

Daeth yr honiadau mewn llyfr sydd newydd gael ei gyhoeddi am y digwyddiadau adeg trosglwyddiad Emiliano Sala o Nantes i Gaerdydd fis Ionawr 2019, cyn i’r awyren oedd yn ei gludo rhwng y ddau glwb wedi plymio i’r Sianel a’i ladd e a’r peilot David Ibbotson.

Roedd Neil Warnock, ar y pryd, yn credu y gallai goliau Sala fod wedi cadw’r clwb yn yr Uwch Gynghrair y tymor hwnnw, ond fe wnaethon nhw ostwng i’r Bencampwriaeth ar ôl gorffen o fewn dau bwynt i Brighton, oedd wedi osgoi’r gwymp.

Yn ôl The Sun, mae’r Adar Gleision yn teimlo bod y cyfan wedi costio £80m o ystyried arian teledu, hysbysebion a nawdd a gafodd ei golli, ac maen nhw wedi crybwyll y mater mewn gwrandawiad yn y Swistir, fydd yn penderfynu a fydd yn rhaid i’r clwb dalu ffi o £15m i Nantes am y trosglwyddiad.

Ond mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi ymateb yn chwyrn i’r adroddiadau.

“Hoffai Clwb Pêl-droed Caerdydd egluro nad oes unrhyw wirionedd yn straeon y wasg heddiw mewn perthynas â chais am iawndal yn cael ei gyflwyno yn erbyn FC Nantes,” meddai llefarydd mewn datganiad.

“Mae modd wfftio’r honiadau sydd wedi cael eu gwneud fel rhai cwbl ffals.”