Mae un o gefnogwyr brwd Clwb Pêl-droed Wrecsam yn dweud y byddai’n “drychineb” pe bai’n rhaid dewis rhwng gwylio Wrecsam a Chymru.

Pe bai Wrecsam yn gorfod cael gêm ail gyfle ac yn cyrraedd y rownd derfynol, fe fydden nhw’n chwarae yn Stadiwm Llundain am 3 o’r gloch ar Fehefin 5, dwy awr cyn gêm ail gyfle Cymru wrth iddyn nhw geisio cyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar yn ddiweddarach eleni, y tro cyntaf y byddan nhw wedi cymhwyso ers 1958.

Ar hyn o bryd, mae Wrecsam yn ail yn y Gynghrair Genedlaethol, saith pwynt y tu ôl i Stockport ar y brig ac mae Marc Jones yn dal i obeithio am ddyrchafiad awtomatig.

“Mae’n bwysig i ni gofio na ydan ni fel clwb wedi cyrraedd unrhyw ffeinal eto,” meddai wrth golwg360.

“Mae yna dipyn i fynd cyn cyrraedd hynny!

“Ond mi fydd hi’n drychineb os ydi Cymru a Wrecsam yn gorfod chwarae o fewn oriau i’w gilydd, a ffans y clwb a’n gwlad yn gorfod dewis.

“Y dewis ydi p’un ai gwylio gêm sy’n dyngedfennol i Wrecsam ennill dyrchafiad ar ôl 15 mlynedd yn y gynghrair yma, neu i’n gwlad fynd i Gwpan y Byd am y tro cynta’ ers 1958.

“Dwi’n dal i obeithio am ddyrchafiad awtomatig ac felly dim play-offs!”