Bydd Clwb Pêl-droed Abertawe’n manteisio ar eu gêm yn erbyn Bournemouth yn Stadiwm Swansea.com nos fory (nos Fawrth, Ebrill 26) i dynnu sylw at waith y byd pêl-droed wrth herio homoffobia a thrawsffobia yn y byd pêl-droed.

Cafodd yr ymgyrch The Justin Campaign ei sefydlu yn 2010 i sefyll yn gadarn yn erbyn homoffobia a thrawsffobia ym myd y bêl gron, ac i ddileu rhagfarn ar sail rhyw a rhywedd.

Yn 2014, cafodd yr ymgyrch ei chymryd drosodd gan Pride Sports, ac mae’r Elyrch yn un o’r clybiau sy’n ei chefnogi bob blwyddyn.

“Cafodd ei lansio i godi ymwybyddiaeth o’r problemau mae pobol o’r gymuned LHDTC+ yn eu hwynebu wrth fynd i gemau pêl-droed,” meddai Carys Ingram, cadeirydd Proud Swans, grŵp cefnogwyr LHDTC+ yr Elyrch.

“Mae wedi tyfu a thyfu’n ymgyrch ryngwladol sy’n gweithio drwy gydol y flwyddyn, ond maen nhw’n defnyddio pêl-droed i addysgu ac i wneud yr heriau mae pobol LHDTC+ yn eu hwynebu’n weladwy.

“Mae hi i fyny i’r clybiau sut maen nhw eisiau cefnogi’r fenter, ond mae Football v Homophobia yn cynnig graffeg a thaflenni ffeithiau.

“Mae Abertawe’n cymryd rhan eleni – fel maen nhw wedi gwneud ers blynyddoedd – drwy neilltuo’r gêm nos Fawrth i helpu gyda gweladwyedd yr ymgyrch.”

Beth mae’r clwb yn ei wneud?

O ddydd i ddydd, mae Clwb Pêl-droed Abertawe’n ymfalchïo yn eu gwaith er mwyn cynnig awyrgylch sy’n groesawgar ac yn cynnig mwynhad i bawb.

Yn ystod tymor 2021-22, mae’r clwb wedi cydweithio â’r cefnogwyr LHDTC+ i gyflwyno nifer o fentrau, gan gynnwys Lasau’r Enfys, digwyddiad Proud Together, sicrhau cynrychiolaeth ar fforwm cefnogwyr LHDTC+ y Gynghrair Bêl-droed, a datgelu ystod o nwyddau yn siop y clwb.

Tra bod ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth yn cael eu cynnal, mae’r clwb yn gofyn i bobol fod yn flaengar drwy adrodd am achosion o homoffobia a thrawsffobia drwy systemau sydd wedi cael eu sefydlu, gan gynnwys rhif testun arbennig fel bod modd adrodd am ddigwyddiadau’n gyflym ac yn anhysbys.

“Rydyn ni’n siarad llawer am weladwyedd, addysg ac ymwybyddiaeth, ond dydyn ni ddim bob amser yn siarad am herio ac adrodd,” meddai Carys Ingram.