Mae’r Telegraph yn adrodd fod Gary Kirsten, prif hyfforddwr tîm criced Tân Cymreig yn y gystadleuaeth ddinesig Can Pelen, wedi cael cynnig swydd prif hyfforddwr tîm prawf Lloegr.

Cafodd ei benodi i arwain tîm y brifddinas yn 2019 pan gafodd y gystadleuaeth newydd sbon ei sefydlu, ac mae ganddo fe gryn brofiad ar y llwyfan rhyngwladol gydag India a’i famwlad De Affrica, yn ogystal â phrofiad o hyfforddi yn yr IPL, y gynghrair undydd yn India.

Pan gafodd Rob Key ei benodi’n Rheolwr Gyfarwyddwr Lloegr yn ddiweddar, awgrymodd ei fod e’n awyddus i benodi dau brif hyfforddwr – un i’r tîm prawf ac un arall ar gyfer y tîm undydd.

Roedd amheuon am Justin Langer, ymgeisydd arall oedd yn y ras, gan fod pryderon na fyddai’r Awstraliad yn gallu cydweithio â Ben Stokes, y ffefryn ar gyfer swydd capten Lloegr mewn gemau prawf, ac yn sgil y penderfyniad i hollti’r swydd yn ddwy.