Mae pethau’n poethi ym mhob cynghrair erbyn hyn gyda chanlyniadau pwysig ym mhob pen y tabl. Ond sut hwyl a gafodd y Cymry arni tybed?

 

*

 

Uwch Gynghrair Lloegr

Mae Danny Ward yn holliach unwaith eto, dychwelodd i fainc Caerlŷr ar gyfer eu gêm ganol wythnos ac roedd arni eto ar gyfer eu gêm ddi sgôr yn erbyn Aston Villa ddydd Sadwrn.

Di sgôr a oedd hi rhwng Brentford a Tottenham hefyd. Chwaraeodd Ben Davies y gêm gyfan i Spurs ac roedd Joe Rodon ar y fainc. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Fin Stevens i Brentford hefyd.

Rhoddwyd hwb enfawr i obeithion Burnley o aros yn yr Uwch Gynghrair gyda dwy fuddugoliaeth yr wythnos hon, y naill o ddwy gôl i ddim yn erbyn Southampton ganol wythnos a’r llall o un i ddim yn erbyn Wolves ddydd Sul. Chwaraeodd Connor Roberts y ddwy gêm a sgoriodd gôl wych yn erbyn Southampton, yn agor y sgorio gyda pherl o ergyd yn crymanu i’r gornel uchaf gyda’i droed wannach. Ar y fainc yr oedd Wayne Hennessey ar gyfer y ddwy gêm.

Nid yw Leeds yn chwarae tan nos Lun.

 

*

 

Y Bencampwriaeth

Gêm gyfartal gôl yr un a gafodd Abertawe yn erbyn Middlesbrough ddydd Sadwrn. Chwaraeodd Ben Cabango y gêm gyfan ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd y bachgen ifanc, Cameron Congreve. Ar y fainc yr oedd Neil Taylor i Boro hefyd yn erbyn ei gyn glwb.

Colli o gôl i ddim a oedd hanes Caerdydd wrth iddynt ymweld â Sheffield United. Nid oedd yr un Cymro yn nhîm cychwynnol yr Adar Gleision ond gorffennodd Will Vaulks a Rubin Colwill y gêm. Aros ar y fainc a wnaeth Mark Harris ac nid oedd Isaak Davies yn y garfan. Ar y fainc yr oedd Adam Davies a Rhys Norrington-Davies i’r Blades hefyd.

Chwaraeodd Harry Wilson a Neco Williams i Fulham nos Fawrth wrth iddynt sicrhau dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair gyda buddugoliaeth dros Preston. Nid oedd Williams yn y garfan wrth iddynt deithio i Bournemouth ddydd Sadwrn ond chwaraeodd Wilson. Mae Wilson wedi bod yn creu goliau i Aleksandar Mitrovic trwy gydol y tymor, fe wnaeth hynny’n erbyn Preston ganol wythnos ac unwaith eto wrth iddi orffen yn gyfartal gôl yr un yn erbyn Bournemouth. Ef hefyd a ildiodd y gic o;r motyn a achubodd bwynt hwyr i’r Cherries ond ni fydd yn poeni gormod am hynny. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Chris Mepham i’r Cherries.

Mae Wilson wedi ei enwebu ar gyfer gwobr chwaraewr y flwyddyn yn y Bencampwriaeth. Tipyn o bluen yn ei het, er mai Mitrovic sydd yn siŵr o ennill.

Huddersfied sydd yn drydydd yn y tabl yn dilyn buddugoliaeth o ddwy gôl i un yn erbyn Barnsley nos Wener. Nid oedd Sorba Thomas yn y garfan oherwydd anaf ond roedd un Cymro yn nhîm y gwrthwynebwyr, Isaac Christie-Davies yn dod ymlaen fel eilydd hanner ffordd trwy’r ail hanner am ymddangosiad prin. Mae’r golled yn anfon Barnsley i lawr i’r Adran Gyntaf.

Yn ymuno â hwy y bydd Peterborough wedi iddynt hwy golli o gôl i ddim yn erbyn Nottingham Forest. Chwaraeodd Dave Cornell yn y gôl i Posh a dechreuodd Brennan Johnson i Forest gan greu unig gôl y gêm i Sam Surridge. Mae Johnson hefyd wedi ei enwebu ar gyfer gwobr chwaraewr ifanc y gynghrair y tymor hwn.

Mae’r canlyniad hwnnw’n codi Forest dros Luton i’r pedwerydd safle wedi iddynt hwy gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Blackpool. Chwaraeodd Tom Lockyer y gêm gyfan ac roedd Elliot Thorpe ar y fainc. Chris Maxwell a oedd yn y gôl i Blackpool.

Collodd Millwall gyfle i gau’r bwlch ar y chwech uchaf, yn gorfod bodloni ar bwynt yn unig yn erbyn Birmingham. Dwy gôl yr un a oedd h, gyda Tom Bradshaw yn chwarae’r rhan fwyaf o’r gêm.

Dechreuodd George Thomas wrth i QPR golli o gôl i ddim yn erbyn Stoke. Roedd Joe Allen yn nhîm Stoke ond ar y fainc yr oedd James Chester.

Roedd Tom Lawrence wedi’i wahardd ar gyfer gêm Derby yn erbyn Bristol City yn dilyn cerdyn coch yn y gêm ddiwethaf. Dychwelodd Andy King i Bristol city wedi anaf hir, yn ymddangos oddi ar y fainc am y munudau olaf o’r fuddugoliaeth dair gôl i un.

Nid yw Preston a Blackburn yn chwarae tan nos Lun.

 

*

 

Cynghreiriau is

Nid yw Luke Jephcott wedi sgorio hanner cymaint o goliau i Plymouth y tymor hwn ag y gwnaeth y tymor diwethaf ond roedd un iddo ddydd Sadwrn. Y blaenwr a roddodd ei dîm ar y blaen yn erbyn Wigan cyn iddi orffen yn gyfartal un gôl yr un. Chwaraeodd James Wilson a Ryan Broom i Plymouth hefyd ond eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Gwion Edwards i Wigan, sydd yn aros ar frig y tabl.

Roedd Nathan Broadhead yn rhan o fuddugoliaeth swmpus gyda Sunderland, yn rhwydo’r bedwaredd mewn buddugoliaeth o bump i un yn erbyn Caergrawnt.

Dechreuodd Joe Jacobson a Sam Vokes i Wycombe wrth iddynt guro Sheffield Wednesday o gôl i ddim.

Dechreuodd Joe Morrell a Louis Thompson yng nghanol y cae wrth i Portsmouth guro Gilligham o dair gôl i un.

Sgoriodd Billy Bodin gôl fuddugol Rhydychen yn erbyn MK Dons ganol wythnos ac roedd yn y tîm eto wrth iddynt golli o ddwy i un yn erbyn Rotherham ar y penwythnos.

Chwaraeodd Gethin Jones, Declan John a Jordan Willimas yn gêm gyfan wrth i Bolton guro Cheltenham o ddwy gôl i un. Ar y fainc yr oedd Owen Evans i Cheltenham, wedi colli ei le yn dilyn rhediad hir yn rhwng y pyst.

Roedd pedwar Cymro yn nhîm Crewe wrth iddynt gael gêm gyfartal gôl yr un yn erbyn Ipswich. Dechreuodd Dave Richards yn y gôl, Billy Sass-Davies a Zac Williams yn yr amddiffyn a Tom Lowery yng nghanol cae a Lowery a gafodd unig gôl ei dîm. Nid oedd Wes Burns na Lee Evans yng ngharfan Ipswich.

Dechreuodd Adam Matthews fuddugoliaeth Charlton o ddwy gôl i ddim dros yr Amwythig ond nid oedd Chris Gunter yn y garfan.

Colli a fu hanes Regan Poole a Liam Cullen gyda Lincoln yn Accrington, dwy gôl i un gyda’r ddau Gymro’n chwarae’r gêm gyfan.

Cafodd Fleetwood bwynt pwysig yn eu brwydr i aros yn yr adran. Gôl yr un a oedd hi yn erbyn Wimbledon ond bu’n rhaid i Ellis Harrison adael y cae gydag anaf wedi cwta ugain munud.

Ym mhen arall y tabl, mae’r MK Dons yn gorffen y tymor yn gryf ond gwylio hynny o’r fainc y mae Matthew Smith druan. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd chwaraewr canol cae Cymru unwaith eto yn erbyhn Morecambe.

Roedd Tom King yn rhan o gêm gythryblus iawn yn yr Ail Adran wrth i Salford guro Oldham o ddwy gôl i un a’i gyrru i lawr o’r gynghrair bêl droed. Bu oedi hir oherwydd protestiadau gan gefnogwyr Oldham a gorffennwyd y gêm y tu ôl i ddrysau caeedig!

Hefydd yn yr Ail Adran, fe ddechreuodd Jonny Williams i Swindon wrth iddynt drechu Hartlepool o dair gôl i ddim.

 

*

 

Yr Alban a thu hwnt

Dechreuodd Marley Watkins i Aberdeen wrth iddynt golli o ddwy gôl i un yn erbyn Livingston. Eilydd heb ei ddefnyddio a oedd Morgan Boyes i’r gwrthwynebwyr.

Nid oedd Aaron Ramsey yng ngharfan Rangers ar gyfer eu taith i Motherwell oherwydd anaf ac nid oedd golwg o Chrstian Doidge i Hibs ychwaith ar gyfer eu gêm hwy yn erbyn St Mirren.

Roedd buddugoliaeth o dair gôl i ddwy i Hearts oddi cartref yn erbyn Dundee United ddydd Sul a hynny er i gôl unigol wych Dylan Levitt roi mantais gynnar i’r tîm cartref. Chwaraeodd Ben Woodburn ran helaeth o’r gêm i Hearts ar ôl dod i’r cae fel eilydd cynnar.

Dylan Levitt

Nid oedd Alex Samuel yng ngharfan Ross County wrth iddynt golli yn erbyn Celtic.

Nid oedd gêm i Real Madrid y penwythnos hwn ond nid oedd Gareth Bale yn y garfan ar gyfer eu gêm ddiwethaf yn erbyn Osasuna nos Fercher. Man City yng Nghynghrair y Pencampwyr yw gêm nesaf y Sbaenwyr.

Ymddengys fod cyfnod Venezia yn Serie A yn tynnu at ei derfyn, maent yna ros yn safleoedd y gwymp ar ôl colli o dair i un yn erbyn Atalanta. Chwaraeodd Ethan Ampadu y gêm gyfan a gwyriad anffodus gan y Cymro a arweiniodd at gôl agoriadol y gwrthwynebwyr.

Ar y fainc yr oedd James Lawrence i St. Pauli wrth iddynt golli o ddwy gôl i un yn erbyn Darmstadt yn yr Almaen. Pylu y mae eu gobeithion hwy o orffen ar frig y 2. Bundesliga bellach.