Mae William Bishop yn 17 oed ac yn byw yn Llanrhaeadr wrth ymyl Dinbych.

Mae o’n chwarae pêl-fasged cadair olwyn.

Mae o wedi bod yn chwarae pêl-fasged ers chwe blynedd.

Mae William yn chwarae gyda’r clwb lleol Rhyl Raptors.

Mae o hefyd yn cystadlu gyda’r North Wales Knights.

Roedd o wedi cael ei ddewis fel rhan o’r tîm i gynrychioli Cymru yn rowndiau rhagbrofol Gemau’r Gymanwlad yn ddiweddar.

Mae Gemau’r Gymanwlad yn cael eu cynnal yn Birmingham ym mis Gorffennaf eleni.

Roedd y rowndiau rhagbrofol yn cael eu cynnal yn yr Alban.

“Roeddwn i’n lwcus iawn i gael fy newis ar gyfer y tim yn rowndiau rhagbrofol Gemau’r Gymanwlad. Roeddwn i wedi bod yn hyfforddi ers dwy flynedd. Roedd Chwaraeon Anabledd Cymru wedi trefnu bob dim,” meddai William.

“Yn anffodus wnaethon ni ddim llwyddo i fynd drwodd i’r Gemau y tro yma.

“Mae’r tim yn ifanc a doedden ni ddim mor gryf a fydden ni wedi hoffi bod.

“Ond roedd o’n brofiad da iawn.

“Erbyn 2026 fe fyddwn ni’n gryfach.”

‘Breuddwyd’

Mae gan William barlys yr ymennydd [cerebral palsy].

Mae’n defnyddio cadair olwyn arbennig i chwarae pêl-fasged.

Roedd o wedi codi arian ei hun er mwyn prynu’r gadair olwyn. `

“Dw i wrth fy modd yn chwarae pêl-fasged. Dwi’n hoffi natur gystadleuol y gêm. Mae’n gyffrous iawn a dych chi byth yn gwybod beth i ddisgwyl. Mi fedrwch chi fod yn ennill o 10 pwynt un funud ac yna colli o 5 pwynt y funud nesa,” meddai.

“Mae llawer o waith tim. Dw i wedi gwneud ffrindiau oes,” meddai William, sy’n sbrintio 100m dros Gymru hefyd.

“Mae’n anodd i fi redeg yn bellach na 100m. Mae parlys yr ymennydd yn anabledd sy’n achosi poen. Mae’n mynd a dod.

“Weithiau dw i’n gallu cerdded o gwmpas y tŷ yn iawn ond os dw i wedi gwneud gormod o ymarfer corff y diwrnod cynt dw i’n gorfod defnyddio’r gadair olwyn wedyn.

“Ond mae chwarae pêl-fasged yn dda iawn i fi o ran fy iechyd meddwl hefyd. Dw i’n llawer mwy hyderus nag oeddwn i.”

Yn yr ysgol

Mae William yn ddisgybl chweched dosbarth yng Ngholeg Myddleton yn Ninbych. Mae’n astudio ar gyfer Lefel A mewn Addysg Gorfforol, Busnes a Seicoleg.

“Mae’n gallu bod yn anodd cael y balans rhwng gwaith ysgol a chystadlu efo’r bêl-fasged. Ond mae’r ysgol wedi bod yn gefnogol iawn.

“Fyswn i’n hoffi mynd i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. Dyna le mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi’i leoli. Maen nhw’n grêt ac yn rhoi’r cyfle i fi gystadlu. Bob tro dw i’n cael cit newydd mae’n dod a gwen i fy wyneb!”

Ei freuddwyd ydy cymryd rhan yn y Gemau Paralympaidd.

“Mynd i’r Gemau Paralympaidd ydy’r nod. Mae hynna’n golygu bod rhaid i rywun fy ngweld i a gweld fy mhotensial. Felly dw i eisiau cario mlaen i chwarae cymaint ag y galla’i. Dw i ar y llwybr iawn,” meddai.

“Dw i erioed wedi gadael i fy anabledd ddal fi yn ôl. Mae’n neis bod efo pobl sy’n gwthio eu hunain i’r eithaf. Rydan ni’n rhannu’r un uchelgais a breuddwydion. Dylai bod ag anabledd ddim stopio chi rhag gwneud y pethau yma.”

 

Geirfa

Pêl-fasged cadair olwyn – wheelchair basketball

rowndiau rhagbrofol – qualifiers

Gemau’r Gymanwlad – Commonwealth Games

Cynrychioli – represent

Disgleirio – shine

Hyfforddi – training

Parlys yr ymennydd – cerebral palsy

Natur gystadleuol – competitive nature

Chwaraeon Anabledd Cymru – Disability Sports Wales

I’r eithaf  – to the limit

Uchelgais – ambition

Breuddwyd – dream