Mae tîm criced Morgannwg wedi cael crasfa o fatiad ac 82 rhediad ar drydydd bore eu gêm Bencampwriaeth yn erbyn Middlesex yng Nghaerdydd.
Roedden nhw eisoes wedi colli chwe wiced yn eu hail fatiad ar ôl yr ail ddiwrnod, ac fe gipiodd yr ymwelwyr y bedair wiced olaf o fewn awr gynta’r trydydd diwrnod.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg wedi colli eu record ddi-guro, gyda buddugoliaeth a gêm gyfartal yn eu dwy gêm gyntaf.
Fe fyddai wedi cymryd ymdrech arwrol gan Sam Northeast, yr unig fatiwr cydnabyddedig oedd ar ôl gan Forgannwg, ond fe gollodd ei wiced yn gynnar, ac fe ddilynodd Michael Neser, Timm van der Gugten a Michael Hogan o fewn dim o dro.
Dechreuodd chwalfa’r bore pan gafodd Northeast ei ddal yn y slip gan Rob White a dwy belawd yn ddiweddarach, cafodd Michael Neser ei ddal gan Sam Robson yn gyrru ar ochr y goes, a Toby Roland Jones yn cipio’r ddwy wiced, gan orffen gyda phum wiced am 40.
Cafodd Timm van der Gugten ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Tom Helm, cyn i’r ornest ddod i ben pan gafodd Michael Hogan ei fowlio gan yr un bowliwr wrth geisio ergyd fawr.
Mae’r canlyniad yn golygu bod Morgannwg yn debygol o golli eu lle ar frig yr Ail Adran, gyda llawer mwy o griced i ddod yn y gemau eraill y penwythnos hwn.
Ymateb Morgannwg
“Roedd hi’n dafl dda i’w hennill, ddaru Middlesex ecsbloetio’r amodau’n dda iawn a’n rhoi ni o dan lawer o bwysau ar [lain] 220, 250,” meddai’r prif hyfforddwr Matthew Maynard.
“Ddaru ni ddim dangos yr un math o ddisgyblaeth hefo’r bat ag y gwnaethon ni yn y ddwy gêm gyntaf.”
Morgannwg ar fin colli’n drwm yn erbyn Middlesex yng Nghaerdydd
Y bowlwyr yn manteisio ar y llain yn y gêm rhwng Morgannwg a Middlesex
Morgannwg yn anelu i aros ar frig Ail Adran y Bencampwriaeth wrth groesawu Middlesex