Cwympodd 16 o wicedi ar ddiwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth rhwng Morgannwg a Middlesex yng Nghaerdydd.

Ar ôl galw’n gywir, fe wnaeth yr ymwelwyr wahodd y tîm cartref i fatio, a’u bowlio nhw allan am 122 mewn ychydig dros un sesiwn, gyda Shaheen Shah Afridi, y bowliwr cyflym o Bacistan yn cipio tair wiced yn ei gêm gyntaf i’r sir.

Erbyn diwedd y dydd, roedd Middlesex yn 171 am chwech yn eu batiad cyntaf, 49 rhediad ar y blaen i Forgannwg, wrth iddyn nhw geisio’u buddugoliaeth gynta’r tymor hwn.

Batiad cyntaf Morgannwg

Gallai Morgannwg fod wedi colli eu wiced gyntaf oddi ar drydedd pelen y dydd, wrth i David Lloyd daro’r bêl oddi ar ymyl ei fat, ac fe gafodd ei ollwng yn y slip.

Ond buan y gwnaethon nhw gipio wiced Andrew Salter, wrth iddo daro’r bêl at Mark Stoneman ar ochr y goes oddi ar fowlio Toby Roland-Jones.

Mae Salter, oedd allan heb sgorio, bellach wedi sgorio dim ond 43 rhediad mewn pum batiad ar ôl cael ei ddyrchafu i agor y batio.

Roedd cryn edrych ymlaen at yr ornest rhwng bowlio Afridi a batio Marnus Labuschagne, ac fe gafodd y bowliwr ei wiced fawr yn y nawfed pelawd wrth i’r Awstraliad gael ei drechu gan hediad y bêl a chael ei fowlio wrth chwarae ergyd amddiffynnol oddi ar ymyl ei fat.

Cafodd Sam Northeast ei ddal yn y slip gan Rob White oddi ar y belen ganlynol, i adael Morgannwg yn 21 am dair o fewn naw pelawd.

Roedden nhw’n 24 am bedair yn y belawd ganlynol, wrth i Kiran Carlson yrru at y wicedwr John Simpson oddi ar fowlio Roland-Jones, ac yn 30 am bump pan gafodd y capten David Lloyd ei redeg allan gan Sam Robson yn dilyn diffyg cyfathrebu rhwng y batwyr.

Erbyn i Callum Taylor a Michael Neser golli eu wicedi, y naill wedi’i daro ar ei goes o flaen y wiced gan Tom Helm a’r llall gan Martin Andersson, roedd Morgannwg mewn trafferthion difrifol yn 52 am saith.

Dim ond cyfraniadau o 31 gan Chris Cooke a 20 gan James Harris, a gafodd eu dal ill dau gan Shaheen Shah Afridi, sicrhaodd fod Morgannwg yn cyrraedd sgôr dros gant.

Batiad cyntaf Middlesex

Er gwaethaf trafferthion Morgannwg ar y llain, dechreuodd batwyr Middlesex yn gadarn, wrth i Sam Robson sgorio 21 oddi ar 29 o belenni cyn i James Harris ei daro ar ei goes o flaen y wiced, gyda’r bowliwr yn chwarae yn ei gêm gyntaf ers gadael Middlesex i ddychwelyd i Forgannwg ar ôl naw tymor.

Sgoriodd Mark Stoneman 52 cyn cael ei ddal gan y wicedwr Chris Cooke oddi ar fowlio’r Iseldirwr Timm van der Gugten, ond collodd Middlesex un wiced ar ôl y llall fel y gwnaeth Morgannwg.

Gorffennodd Harris gyda thair wiced am 48, ac fe gollodd Middlesex bum wiced am 42 rhediad, wrth iddyn nhw lithro o 68 am un i 110 am chwech.

Ond daeth rhywfaint o achubiaeth gan John Simpson (33 heb fod allan) a Toby Roland-Jones (39 heb fod allan) wedyn, ac mae eu partneriaeth yn werth 61 hyd yn hyn.

Ymateb James Harris

“Mae llawer wedi digwydd heddiw,” meddai James Harris.

“Mae’n bosib ein bod ni wedi dod i ffwrdd ychydig yn waeth ein byd, gyda Middlesex wedi cael rhywfaint o flaenoriaeth.

“Roedden ni ynddi go iawn gyda nhw’n 110 am chwech.

“Rydyn ni’n amlwg wedi siomi ychydig bach gyda 122.

“Wnaeth ein batio ni ddim mynd yn ôl y cynllun wir, ond rydyn ni’n dal yn y gêm hon.

“Bowlio da fory a cheisio bowlio Middlesex allan, a batio’n dda wedyn am gyfnod hir o amser ac fe fyddwn ni’n ôl yn y gêm.”

 

Morgannwg yn anelu i aros ar frig Ail Adran y Bencampwriaeth wrth groesawu Middlesex

Maen nhw wedi cael buddugoliaeth a gêm gyfartal yn eu dwy gêm gyntaf y tymor hwn