Mae Mark Williams, y chwarae snwcer o Went, wedi efelychu’r record am y nifer fwyaf o rediadau o fwy na chant mewn gêm 25 ffrâm ym Mhencampwriaeth y Byd.
Fe gyflawnodd e’r gamp wrth guro’i gyd-Gymro, Jackson Page o Lyn Ebwy, o 13 ffrâm i dair.
Mae’r canlyniad yn golygu bod y chwaraewr llaw chwith wedi sicrhau ei le yn rownd yr wyth olaf yn y Crucible yn Sheffield.
Sgoriodd e chwe rhediad o fwy na chant, ac wyth o fwy na 50, a bydd e’n herio Mark Selby na Yan Bingtao yn y rownd nesaf.
Mae gan Williams a Page berthynas agos, ac mae Williams, sy’n 47, yn ystyried Page, 20, fel “pedwerydd mab”, gan fod y ddau yn ymarfer ac yn cymdeithasu â’i gilydd.
Mae Williams bellach wedi sgorio deg rhediad o fwy na 100 yn y gystadleuaeth eleni.