Mae tîm criced Morgannwg ar fin colli’n drwm yn erbyn Middlesex yn y Bencampwriaeth yng Nghaerdydd.
Ar ddiwedd yr ail ddiwrnod, maen nhw’n 104 am chwech yn eu hail fatiad, 110 o rediadau ar ei hôl hi ac mewn perygl o golli’r gêm cyn i Middlesex fatio’r ail waith.
Dechreuodd Middlesex y diwrnod ar 171 am chwech, 49 o rediadau ar y blaen.
Tarodd John Simpson ganred a Toby Roland-Jones hanner canred i ymestyn y fantais honno, wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 336, gan sicrhau blaenoriaeth batiad cyntaf o 214.
Cipiodd James Harris bedair wiced am 68 i Forgannwg yn erbyn ei hen sir, ond yr un hen stori oedd hi i fatwyr Morgannwg gyda’r bat wrth i’r prif fatwyr fethu â sgorio digon o rediadau unwaith eto.
Ond batiodd John Simpson yn dda i’r Saeson wrth i Middlesex sgorio 226 am eu pedair wiced olaf, er bod y llain wedi ffafrio’r bowlwyr ar y diwrnod cyntaf.
Cyrhaeddodd Toby Roland-Jones ei hanner canred oddi ar 62 o belenni, gan ychwanegu 103 gyda John Simpson cyn i Harris gipio’i wiced am 65.
Gyda dim ond pedair wiced yn weddill, Sam Northeast yw gobaith olaf Morgannwg o achub yr ornest, ac mae e wrth y llain, heb fod allan ar 21.
Dim ond Marnus Labuschagne (23), David Lloyd a Michael Neser (22 yr un) sydd wedi cyrraedd ffigurau dwbwl o blith yr wyth batiwr sydd wedi batio hyd yn hyn.