Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer gêm goffa Peter Whittingham, cyn-chwaraewr pêl-droed Caerdydd ac Aston Villa, y ddau dîm fydd yn herio’i gilydd ar Dachwedd 30 yn Stadiwm Dinas Caerdydd.
Y gêm hon fydd lansiad Sefydliad PW7 er cof am y chwaraewr fu farw’n 35 oed yn 2020 ar ôl cwympo.
Bydd y gêm yn cael ei chynnal yn ystod y cyfnod pan fydd gemau cystadleuol wedi dod i ben cyn Cwpan y Byd yn Qatar, wrth i Steve Morison, rheolwr Caerdydd, a Steven Gerrard, rheolwr Aston Villa, baratoi eu chwaraewyr i ailddechrau’r tymor ym mis Rhagfyr.
“Dw i mor hapus fod gan ein cefnogwyr y cyfle bellach i sicrhau eu tocynnau ar gyfer y gêm hon, ac y gallan nhw ddechrau edrych ymlaen at fis Tachwedd,” meddai Ken Choo, prif weithredwr Clwb Pêl-droed Caerdydd, wrth wefan y clwb.
“Fe fydd, yn sicr, yn ddiwrnod arbennig ac emosiynol iawn i ni i gyd.”
Yn ôl James Whittingham, ei frawd, bydd y sefydliad newydd er cof amdano’n “waddol, yn ei enw, y byddai wedi bod yn falch ohoni”, ac yn gyfle i “ddarparu gwaddol i’w feibion”.
Bydd holl elw’r gêm yn mynd i dair elusen sy’n cael eu cefnogi gan y sefydliad newydd, gan gynnwys Sefydliad Clwb Pêl-droed Caerdydd a Winston’s Wish, a bydd swm o’r arian yn mynd tuag at ariannu bwrsariaeth i blant difreintiedig yn hen ysgol Peter Whittingham.
Bydd tocynnau i gefnogwyr Caerdydd yn costio £8 i oedolion, £5 ar gyfer tocynnau pris gostyngol a £3 i blant hyd at Hydref 4, a bydd y prisiau’n codi i £10, £7 a £3 wedyn, gyda thocynnau lletygarwch yn costio £60 y pen neu £500 ar gyfer bwrdd i ddeg o bobol. Bydd tocynnau ar gael i gefnogwyr Aston Villa trwy’r clwb hwnnw.
Bydd modd prynu rhaglen deyrnged swyddogol am £3 ar noson y gêm.