Roedd Dan James ac Ethan Ampadu ymhlith y Cymry symudodd o un clwb i’r llall wrth i’r ffenest drosglwyddo gau’n glep neithiwr (dydd Iau, Medi 2).

Mae diwedd ffenest mis Awst bob amser yn gyfnod nerfus i glybiau wrth iddyn nhw geisio denu chwaraewyr newydd a cheisio dal eu gafael ar eu sêr.

Ond mae’n gyfnod cyffrous i rai chwaraewyr, wrth iddyn nhw ddechrau pennod newydd yn eu gyrfaoedd, ac roedd hynny’n arbennig o wir i’r ddau Gymro sy’n llygadu Cwpan y Byd yn Qatar ddiwedd y flwyddyn.

Roedd Rob Page wedi sôn yn gyhoeddus fod angen i Ethan Ampadu geisio pêl-droed rheolaidd, ac fe fydd yr amddiffynnwr a chwaraewr canol cae amddiffynnol yn gobeithio ei fod e wedi gwneud hynny wrth symud o Chelsea i Spezia yn yr Eidal ar fenthyg.

Un arall fydd yn gobeithio rhoi hwb i’w obeithion o fod ar ei orau unwaith eto cyn y gystadleuaeth fawr yw Dan James, sydd hefyd wedi mynd ar fenthyg, o Leeds i Fulham.

Roedd yn gyfnod nerfus i Abertawe, wrth iddyn nhw geisio dal eu gafael ar y ddau ymosodwr, Michael Obafemi a Joel Piroe, ond fe wnaethon nhw hynny, gan ychwanegu Cymro arall at y garfan hefyd, yr amddiffynnwr Fin Stevens o Brentford fydd ar fenthyg tan ddiwedd y tymor, wrth i Gymro arall, Dan Williams, ymuno â’r Seintiau Newydd ar fenthyg o’r Elyrch.

Un arall symudodd i’r Seintiau Newydd yw Adam Wilson, yn rhad ac am ddim o Newcastle.

Cymro aeth yn angof, efallai, erbyn hyn yw’r ymosodwr Christian Doidge, a hwnnw’n chwarae yn yr Alban. Ar yr unfed awr ar ddeg, symudodd e o Hibernian i Kilmarnock ar fenthyg.

Llwyddodd Caerdydd i ddenu un o’u prif dargedau hefyd, gyda Callum Robinson yn symud o West Brom am ffi sydd heb ei ddatgelu (tua £1.5m mae’n debyg), tra bod Dior Angus wedi gadael Wrecsam am Harrogate am ffi anhysbys.