Mae Clwb Criced Morgannwg wedi denu Shubman Gill, chwaraewr rhyngwladol o India, am bedair gêm Bencampwriaeth ola’r tymor, wrth iddyn nhw geisio dyrchafiad i’r Adran Gyntaf.

Bydd y batiwr 22 oed ar gael ar gyfer yr ornest yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd, sy’n dechrau ddydd Llun (Medi 5).

Mae e wedi chwarae mewn 11 o gemau prawf, gan sgorio 579 o rediadau ar gyfartaledd dros 30, ac mewn naw gêm undydd ar gyfartaledd o 71.28 dros ei wlad.

Mewn gemau dosbarth cyntaf, mae e wedi sgorio 2,877 o rediadau ar gyfartaledd o 53.27, gan gynnwys saith canred.

“Dw i’n edrych ymlaen at ymuno â charfan Morgannwg wrth iddyn nhw wthio am ddyrchafiad,” meddai Shubman Gill.

“Dw i wedi mwynhau chwarae yma erioed, a dw i wedi cyffroi o gael profi criced sirol a’r heriau a ddaw yn ei sgil.

“Hoffwn ddiolch i Forgannwg a’r BCCI (Bwrdd Rheoli Criced India) am y cyfle, ac alla i ddim aros i gael dechrau i Forgannwg a phrofi fy hun yn ystod rhan allweddol o’r tymor.”

‘Ychwanegiad gwych’

“Mae Shubman yn ychwanegiad gwych i’r garfan wrth i ni fynd i mewn i ddiwedd Pencampwriaeth y Siroedd,” meddai Mark Wallace, Cyfarwyddwr Criced Morgannwg.

“Mae e’n un o’r batwyr ifainc mwyaf cyffrous yn y byd, ac mae ganddo fe brofiad eisoes o fatio yn yr amodau hyn yn ystod ei gyfnod gydag India.

“Gyda Colin [Ingram] a Marnus [Labuschagne] i ffwrdd, roedd angen i ni gryfhau brig y rhestr fatio, a gyda’i brofiad rhyngwladol, Shubman yw’r un delfrydol i gyfro hynny.”

Pwy yw Shubman Gill?

Y tu hwnt i’r byd criced, mae Shubman Gill wedi’i gysylltu’n rhamantaidd â nifer o fenywod blaenllaw.

Fe fu adroddiadau’n ddiweddar ei fod e mewn perthynas â Sara Ali Khan, yr actores Bollywood sy’n ferch i Saif Ali Khan, un o’r actorion Bollywood cyfoes enwocaf a’r actores Amrita Singh. Mae Saif Ali Khan yn fab i Mansur Ali Khan Pataudi, cyn-gapten India.

Mae e hefyd wedi’i gysylltu yn y gorffennol â Sara Tendulkar, merch Sachin Tendulkar, un o fawrion India a’r byd criced.

 

Batiwr o India yn debygol o ymuno â Morgannwg am weddill y tymor

Mae adroddiadau bod Shubman Gill ar ei ffordd i Gymru yn absenoldeb Marnus Labuschagne, Colin Ingram a Michael Neser