Mae Joel Piroe wedi wfftio awgrymiadau nad yw’n hapus yng Nghlwb Pêl-droed Abertawe.

Daw hyn ar ôl i Leeds United ddangos diddordeb yn yr ymosodwr 23 oed ar ddiwrnod olaf y ffenest drosglwyddo.

Ac roedd y gŵr o’r Iseldiroedd wedi bod yn destun diddordeb gan Leicester City yn gynharach yn y ffenest hefyd.

Fodd bynnag, mae Piroe – wnaeth sgorio 24 gôl y tymor diwethaf – yn mynnu ei fod yn “hapus” yn Abertawe.

“Dw i wedi clywed rhai straeon, doedden nhw ddim yn fy mhoeni, dw i’n hynod hapus i fod yn chwarae yma,” meddai.

“Mae Abertawe wedi rhoi nifer o gyfleoedd i mi ddangos fy sgiliau a dw i’n ddiolchgar am hynny.

“Dw i eisiau parhau i wneud fy ngorau i’r tîm ym mhob ffordd alla i.

“Wrth gwrs mae hi’n anrhydedd pan fo clybiau’r Uwch Gynghrair yn dangos diddordeb, ond dw i’n hapus gyda’r ffordd dw i’n datblygu yn fan hyn.

“Fel y dywedais y tymor diwethaf, does neb yn gwybod beth all ddigwydd yn y dyfodol.

“Wna i ddim dweud fy mod i wedi ystyried gadael, ond roeddwn i eisiau edrych ar yr opsiynau a’r hyn oedd orau i mi.”

Goliau

Mae Joel Piroe wedi sgorio mewn dwy gêm yn olynol, yn erbyn Middlesbrough a Stoke City, ac mae’n gobeithio am dymor arall llwyddiannus.

“Mae hi wastad yn braf sgorio dy gôl gyntaf ac yna bwrw ymlaen,” meddai wedyn.

“Mae popeth yn dod yn naturiol wedyn, felly mae’n help mawr.”