Abertawe a Phort Talbot fydd yn cystadlu am Gwpan Criced Cymru ddydd Sul (Medi 4), wrth i’r gystadleuaeth ddathlu ei phen-blwydd yn 50 oed eleni.

Roedd 89 o dimau wedi cofrestru ar gyfer y gystadleuaeth eleni, y nifer fwyaf ers sawl blwyddyn.

Cafodd y timau eu rhannu’n bedwar rhanbarth, ac mae 67 o gemau wedi’u cynnal yn y gystadleuaeth hyd yn hyn.

Abertawe oedd y pencampwyr y tymor diwethaf, a bydd Port Talbot yn ceisio cipio’r goron oddi arnyn nhw yng Nghlwb Criced Pontarddulais.

Port Talbot

Dechreuodd Port Talbot gyda gêm ragbrofol yn erbyn Castell-nedd, gyda’r capten Dan Rowe yn cipio pum wiced am 27, a Dean Morris yn taro 62 heb fod allan a Joe Voke 64 heb fod allan wrth iddyn nhw ennill o naw wiced.

Yn y rownd gyntaf, curon nhw Faesteg o 54 rhediad cyn herio Tata Steel a’u bowlio nhw allan am 84 cyn crafu buddugoliaeth wrth gyrraedd 86 am saith.

Ynysygerwn oedd y gwrthwynebwyr nesaf, wrth iddyn nhw ennill o 51 rhediad gyda chyfraniadau o 71 gan Liam Davies a 52 gan Barney Huxtable, cyn i bum bowliwr gipio dwy wiced yr un.

Yn rownd yr wyth olaf, fe wnaeth Caerdydd osod nod o 196 i Bort Talbot, ac fe enillon nhw’n gyfforddus o chwe wiced gyda Joe Voke yn taro 58 heb fod allan.

Casnewydd oedd eu gwrthwynebwyr yn y rownd gyn-derfynol, gyda nod o 300 i Gasnewydd ennill ar ôl i Liam Davies sgorio 119 a Joe Voke 152 wrth i’r pâr adeiladu partneriaeth o 152 am yr ail wiced.

Cael a chael oedd hi, ac roedd angen pedwar rhediad ar Gasnewydd oddi ar y ddwy belen olaf ond fe gwympodd y wiced dyngedfennol oddi ar y belen olaf ond un i sicrhau’r fuddugoliaeth i Bort Talbot.

Abertawe

Cafodd Abertawe lwybr tipyn haws i’r rownd derfynol, ond bu’n rhaid iddyn nhw deithio cryn dipyn yn ystod y gystadleuaeth serch hynny.

Doedd dim angen iddyn nhw chwarae gêm ragbrofol, ac fe wnaethon nhw herio Gwasanaeth Sifil Abertawe yn y rownd gyntaf, a sgoriodd tri batiwr ganred yr un – Brad Wadlan 114, Cameron Hemp 102 a Jake Roberts 72 mewn cyfanswm o 312 am un, cyn i Dan Hardman, capten y Gwasanaeth Sifil, sgorio 129 yn ofer wrth i’w dîm sgorio dim ond 222.

Ildiodd Tre-gŵyr y gêm ganlynol a bu’n rhaid i Abertawe herio Llangennech, oedd wedi sgorio 218 am ddwy diolch i 81 gan James Taube a 63 gan Matthew Jones, cyn i Abertawe gyrraedd 220 am dair diolch i Hasan Hyatt (80) a Steffan Roberts (57).

Y Bont-faen oedd eu gwrthwynebwyr yn rownd yr wyth olaf, a bu’n rhaid i’r rheiny gwrso 262 ar ôl i Steffan Roberts daro 124.

Tarodd Salman Saeed 86 yn ofer, ond roedd ei dîm 36 rhediad yn brin o’r nod diolch i fowlio campus Cameron Hemp gyda thair wiced am 43.

Fe wnaethon nhw herio Bae Colwyn yn y rownd gyn-derfynol, a’r rheiny eisoes wedi curo Pontarddulais, ond dim ond 159 wnaethon nhw sgorio cyn i Abertawe gyrraedd 162 am bump i gipio’r fuddugoliaeth, gyda Jake Roberts yn sgorio 69.

Y rownd derfynol

Mae Criced Cymru, sy’n trefnu’r gystadleuaeth, yn dweud eu bod nhw “wrth eu bodd” o gael dychwelyd i Bontarddulais ar gyfer y rownd derfynol unwaith eto eleni, yn dilyn rownd derfynol “hyfryd” y llynedd.

Bydd aelodau o dimau Gorseinon a Chastell-nedd yn bresennol, a hwythau wedi cystadlu am y tlws ym mlwyddyn gynta’r gystadleuaeth yn 1972.

Bydd y gêm yn dechrau am 11 o’r gloch o ganlyniad i’r tywydd anffafriol sydd wedi cael ei ddarogan.