Mae sylw tîm criced yn troi yn ôl at y Bencampwriaeth heddiw (dydd Llun, Medi 5), wrth iddyn nhw groesawu Swydd Gaerwrangon i Gaerdydd.
Mae ganddyn nhw bedair gêm yn weddill o’r tymor i sicrhau dyrchafiad i’r Adran Gyntaf y tymor nesaf, ac fe ddaw yn dilyn buddugoliaeth dros Swydd Gaerlŷr yn eu gêm ddiwethaf, pan darodd Sam Northeast 410 heb fod allan – gan dorri record y sir am y sgôr unigol gorau erioed, cyn torri record undydd gyda 177 heb fod allan yn erbyn Swydd Gaerwrangon bythefnos yn ôl.
Mae’r capten David Lloyd yn dychwelyd ar ôl cael gorffwys, ac mae gan Forgannwg ddau chwaraewr tramor newydd – Ajaz Patel o Seland Newydd a Shubman Gill o India – sy’n cael eu cynnwys yn y garfan yn lle’r Awstraliaid Marnus Labuschagne a Michael Neser, sydd wedi mynd adref.
Cipiodd Patel ddeg wiced mewn batiad dros Seland Newydd yn erbyn India fis Rhagfyr y llynedd, tra bod gan Gill gyfartaledd o 53.27 gyda’r bat ac fe darodd ei ganred undydd cyntaf yn erbyn Zimbabwe fis diwethaf.
Mae’r bowlwyr cyflym Timm van der Gugten a Michael Hogan hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl colli allan ar yr ymgyrch 50 pelawd yng Nghwpan Royal London gan eu bod nhw wedi’u dewis i’r Can Pelen, ac mae’r agorwr Eddie Byrom yn dychwelyd ar ôl cael ei hepgor ar gyfer y gystadleuaeth 50 pelawd.
Y sefyllfa
Mae Morgannwg yn drydydd ar hyn o bryd, gyda dau dîm yn gallu ennill dyrchafiad.
Maen nhw bum pwynt yn unig y tu ôl i Middlesex, sy’n ail, ond maen nhw wedi chwarae un gêm yn llai na’r Saeson.
Mae Swydd Gaerwrangon yn bumed.
Gemau’r gorffennol
Daeth buddugoliaeth ddiwethaf Morgannwg dros Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd yn 2013, pan gipion nhw fuddugoliaeth o ddeg wiced wrth i Mike Reed gipio pum wiced am 27, cyn i Jim Allenby daro 78 a chipio pedair wiced am 27 i sicrhau mantais i’r Cymry.
Dyma’r gêm gyntaf yn erbyn Swydd Gaerwrangon yn y brifddinas ers 2019, pan darodd Marnus Labuschagne ganred yn y naill fatiad a’r llall, tra bod Brett D’Oliveira, capten Swydd Gaerwrangon erbyn hyn, daro canred wrth i’r ornest orffen yn gyfartal wrth gwrso nod o 326.
Enillodd y Saeson o wyth wiced yn 2017 wrth i Tom Kohler-Cadmore daro canred a Josh Tongue yn cipio pum wiced am 45, a daethon nhw’n agos i ennill yn 2016 hefyd, wrth i D’Oliveira daro canred dwbwl cynta’i yrfa cyn i’r glaw ddod.
Un garreg filltir bwysig yw fod Sam Northeast bellach wedi sgorio 515 o rediadau ers iddo fe golli ei wiced ddiwethaf.
Morgannwg: D Lloyd (capten), E Byrom, S Gill, S Northeast, K Carlson, B Root, C Cooke, A Patel, T van der Gugten, J Harris, M Hogan
Swydd Gaerwragon: E Pollock, J Libby, T Cornall, J Haynes, G Roderick, E Barnard, B D’Oliveira (capten), B Cox, J Leach, D Pennington, B Gibbon