Bydd Swydd Gaerwrangon yn ddigon siomedig wrth orffen diwrnod cynta’r gêm Bencampwriaeth yn erbyn Morgannwg ar 285 am saith, ar ôl galw’n gywir a phenderfynu batio dan amodau sydd wedi bod o gymorth sylweddol i’r bowlwyr yng Nghaerdydd.

Morgannwg fanteisiodd fwyaf ar yr amodau ar ddechrau’r diwrnod cyntaf o griced ym mis Medi, gyda’r ornest yn dechrau hanner awr yn gynt nag arfer am 10.30yb.

Chwe phelawd yn unig o amodau llwydaidd gymerodd hi i’r sir Gymreig gipio wiced, wrth i James Harris daro coes Jake Libby o flaen y wiced am 16, a’r ymwelwyr yn 16 am un.

A pharhau wnaeth y thema ’16’, wrth i Taylor Cornall gael ei fowlio gan Timm van der Gugten am y sgôr hwnnw i adael y Saeson yn 55 am ddwy yn yr ail belawd ar bymtheg.

Doedd hi ddim yn hir cyn i Forgannwg gipio’u trydedd wiced, wrth i van der Gugten fowlio Jack Haynes i gipio’i ail wiced, gydag Ed Pollock ben draw’r llain yn ceisio sefydlogi’r batiad wrth i’w dîm gyrraedd 88 am dair erbyn amser cinio.

Taro’n ôl yn y prynhawn

Daeth amser cinio ar yr adeg anghywir i Forgannwg, wrth iddyn nhw ei chael hi’n anodd yn y cyfnod wedi’r egwyl, wrth i Pollock barhau i bwyso ar fowlwyr Morgannwg wrth gyrraedd ei hanner canred wrth i Gareth Roderick ymuno â fe wrth y llain.

Cyrhaeddodd Pollock ei hanner canred ond o fewn dim o dro, roedd e allan am 54, wedi’i ddal gan y wicedwr Chris Cooke wrth i van der Gugten gipio’i drydedd wiced i adael yr ymwelwyr yn 114 am bedair.

Os oedd Pollock a Roderick yn edrych fel pe baen nhw’n debygol o achosi rhwystredigaeth, dyna wnaeth Roderick ac Ed Barnard wrth adeiladu partneriaeth gadarn aeth heibio’r 50 wrth i Forgannwg barhau i chwilio am bumed wiced allweddol i ddod â’r gêm yn ôl o dan eu rheolaeth.

Cyrhaeddodd Barnard ei hanner canred ychydig belawdau cyn te, wrth i’r ymwelwyr glosio at eu pwynt batio cyntaf yng nghanol cyfnod hesb i fowlwyr Morgannwg, ac fe ddaeth hwnnw wrth i Roderick glosio at ei hanner canred yntau.

Gallai Barnard fod wedi cael ei redeg allan yn fuan ar ôl cyrraedd y garreg filltir, gyda thafliad Kiran Carlson yn methu’r wiced o drwch blewyn wrth i Swydd Gaerwrangon geisio rhediad peryglus.

Colli wicedi’n gyflym

Ajaz Patel, y troellwr llaw chwith o Seland Newydd, gipiodd y wiced hollbwysig – ei wiced gyntaf yn ei gêm gyntaf i’r sir – wrth daro coes Ed Barnard o flaen y wiced am 75 i dorri’r bartneriaeth o 127 gyda Gareth Roderick, oedd yn dal wrth y llain bryd hynny ar 66 heb fod allan wrth i’w dîm golli eu pumed wiced ar 241.

Roedden nhw’n 255 am chwech pan darodd James Harris goes y capten Brett D’Oliveira o flaen y wiced, ac yn 256 am saith wrth i Ben Cox gael ei fowlio gan Michael Hogan dair pelen yn ddiweddarach.

Erbyn i’r chwarae ddod i ben, roedden nhw’n 285 am saith, gyda Gareth Roderick yn dal wrth y llain, heb fod allan ar 88.

Sgorfwrdd: https://www.espncricinfo.com/series/county-championship-division-two-2022-1310355/glamorgan-vs-worcestershire-1297764/live-cricket-score

Y ras i ennill dyrchafiad yn dechrau i Forgannwg yn erbyn Swydd Gaerwrangon yng Nghaerdydd

Mae gan y sir Gymreig bedair gêm Bencampwriaeth i sicrhau eu bod nhw’n codi i’r Adran Gyntaf y tymor nesaf