Mae Marnus Labuschagne, y batiwr tramor o Awstralia sy’n rhif dau ar restr detholion batwyr y byd, wedi llofnodi cytundeb newydd gyda Chlwb Criced Morgannwg tan o leiaf 2024.
Ymunodd e â’r sir am y tro cyntaf yn 2019, gan sgorio 1,114 o rediadau mewn deg gêm dosbarth cyntaf, ac mae e bellach wedi sgorio 1,719 o rediadau mewn 21 o gemau dosbarth cyntaf a 508 o rediadau mewn 14 gêm ugain pelawd, yn ogystal â bod yn fowliwr allweddol i’r clwb ar adegau.
Roedd e’n aelod blaenllaw o garfan Awstralia yng Nghyfres y Lludw yn 2019, ac fe greodd hanes fel yr eilydd cyfergyd cyntaf erioed mewn gemau prawf, gan ddisodli Steve Smith yn Lord’s, ac fe aeth yn ei flaen i fod yn ail brif sgoriwr y gyfres gyda chyfartaledd o fwy na 50.
Mae e wedi sicrhau ei le yn y tîm cenedlaethol erbyn hyn, gan sgorio 2,539 o rediadau ar gyfartaledd o 54 mewn 28 o gemau prawf, gan sgorio saith canred a 13 hanner canred.
Cododd e i frig detholion y byd yr ICC am gyfnod byr yn niwedd 2021.
‘Dw i wrth fy modd yn chwarae i Forgannwg’
“Dw i wrth fy modd yn chwarae i Forgannwg, ac yn edrych ymlaen at ddod i Gaerdydd a Chymru bob blwyddyn,” meddai Marnus Labuschagne, sydd wedi gadael y sir am weddill y tymor i ddychwelyd i’w famwlad.
“Mae wedi dod yn ail gartref i fi a’m teulu, a dw i wrth fy modd o gael dod yn ôl am ddwy flynedd arall.
“Ers yr eiliad gyrhaeddais i yma, mae chwaraewyr, staff a chefnogwyr Morgannwg wedi fy nhrin i fel pe bawn i’n un ohonyn nhw, a dw i’n eithriadol o ddiolchgar am hynny.
“Alla i ddim aros i ddychwelyd i Gymru a helpu’r tîm i wthio am ragor o dlysau.”
‘Ychwanegiad arbennig’
“Mae Marnus wedi bod yn ychwanegiad arbennig yn yr ystafell newid, ac mae’n anhygoel gallu dod â thalent o safon fyd-eang yn ôl i Forgannwg,” meddai Mark Wallace, Cyfarwydd Criced Morgannwg.
“Mae ei angerdd a’i gariad at y gêm yn heintus a does ond angen i chi fod yn ei gwmni am ychydig funudau i sylweddoli cymaint mae’r clwb a’r cefnogwyr yn ei olygu iddo fe.
“Mae e wedi bod yn chwaraewr anghredadwy i ni yn ystod ei gyfnod byr gyda ni, ac mae wedi bod yn esiampl i’n chwaraewyr iau.
“Allwn ni ddim aros i’w gael e’n ôl yng Nghymru am y ddwy flynedd nesaf.”