Enillodd Osian Pryce o Fachynlleth bwyntiau llawn yn Rali Ceredigion i gadw ei obeithion o ennill Pencampwriaeth Prydain yn fyw.
Osian Pryce ddaeth i’r brig o blith carfan cystadleuwyr y British Rally Chamionship a oedd yn ymgeisio yn y ras, tua 20 ohonyn nhw, allan o 100 gyrrwr.
Haydon Paddon, un o yrwyr rali mwyaf llwyddiannus Seland Newydd, enillodd yr holl rali.
Dyma’r tro cyntaf ers tair blynedd i’r ras gael ei chynnal, a’r tro cyntaf fel rhan o Bencampwriaeth Prydain, a dyma’r ail waith yn olynol i Pryce ennill y ras.
Dyma’r trydydd tro i Pryce a’i gyd-yrrwr Noel O’Sullivan ddod i’r brig ymysg y garfan yn y bencampwriaeth eleni, ac fe gyrhaeddodd Cymro arall, James Williams, y podiwm yn yr ail safle, gyda Ruairi Bell yn drydydd.
Roedd dau gymal drwy Aberystwyth a dwy gymal arall yng nghefn gwlad, ac roedd Pryce ar ei hôl hi ar ddiwedd dydd Sadwrn, 1.5 eiliad y tu ôl i’r Gwyddel Keith Cronin a’i gyd-yrrwr Mikie Galvin.
Ond fe newidiodd y cyfan yn nhywyllwch y nos, gyda Cronin yn ymestyn ei fantais i chwech eiliad a Pryce yn gostwng i’r trydydd safle cyn i Cronin adael y ffordd ym Mhontarfynach lai na milltir ar ôl dechrau’r cymal.
Daeth y glaw ddydd Sul, ac fe weithiodd hynny o blaid Osian Pryce, gan ddewis teiars slic yn hytrach na’r teiars tywydd gwlyb, ac roedd ganddo fe flaenoriaeth o bron i 30 eiliad ar y cymal 17 milltir yn Llanfihangel.
“Dw i wrth fy modd efo honna,” meddai Osian Pryce ar ddiwedd y ras.
“Mae nifer o bobol allai fod wedi cipio’r fuddugoliaeth y penwythnos hwn a bod yn onest, ond dw i’n falch iawn efo’r ffordd mae popeth wedi mynd, dw i’n hapus iawn efo’r car.”