Mae golwg360 yn deall ei bod hi’n debygol y bydd Shubman Gill, batiwr rhyngwladol India, yn ymuno â Chlwb Criced Morgannwg am weddill y tymor.
Er nad oes cadarnhad ar hyn o bryd, mae Morgannwg yn chwilio am chwaraewr tramor ar ôl i Marnus Labuschagne a Michael Neser ddychwelyd i Awstralia, tra bod Colin Ingram wedi gadael i chwarae yn y Caribbean Premier League.
Mae’n gyfnod tyngedfennol i Forgannwg, wrth iddyn nhw geisio dyrchafiad i Adran Gynta’r Bencampwriaeth y tymor nesaf, ac mae ganddyn nhw gemau i ddod yn erbyn Swydd Gaerwrangon, Middlesex, Swydd Derby a Sussex.
Mae’r sir Gymreig yn drydydd ar hyn o bryd, bum pwynt yn unig y tu ôl i Middlesex, sy’n ail.
Pe bai Morgannwg yn cadarnhau eu bod nhw wedi denu Shubman Gill am weddill y tymor, byddai’n golygu bod saith batiwr o India wedi chwarae yn y gêm sirol eleni – Cheteshwar Pujara (Sussex), Washington Sundar (Swydd Gaerhirfryn), Krunal Pandya, Mohammed Siraj (Swydd Warwick), Umesh Yadav (Middlesex) a Navdeep Saini (Caint) yw’r rhai eraill.
Gill fyddai’r trydydd chwaraewr o India i chwarae i Forgannwg, ar ôl Ravi Shastri a Sourav Ganguly.
Mae e wedi bod yn cynrychioli ei wlad yn erbyn India’r Gorllewin a Zimbabwe, gan sgorio cyfanswm o 450 o rediadau, gyda chyfartaledd o 102.5 yn erbyn India’r Gorllewin a 122.5 yn erbyn Zimbabwe.
Mae e wedi chwarae mewn 11 o gemau prawf dros ei wlad, gan sgorio 579 o rediadau ar gyfartaledd o 30.47, a daeth ei gêm brawf ddiwethaf yn erbyn Lloegr yn Edgbaston haf yma.
Mae e hefyd wedi chwarae mewn 12 o gemau i’r Punjab yn Nhlws Ranji, gan sgorio 1,176 o rediadau ar gyfartaledd o 65.33 yn y gystadleuaeth.
Mae Morgannwg eisoes wedi cyhoeddi y bydd Ajaz Patel o Seland Newydd yn chwarae iddyn nhw yn y gemau sydd i ddod.