Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi mai Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru fydd eu partner elusennol newydd ar gyfer tymor 2022-23.

Cafodd y cefnogwyr gyfle unwaith eto y tymor hwn i awgrymu elusen i’w chefnogi, ac mae’r clwb yn dweud iddyn nhw dderbyn cryn ymateb.

Cafodd yr elusen ei sefydlu yn 2000 gyda’r nod o godi digon o arian i agor ysbyty o safon fyd-eang ar gyfer plant y wlad, ac fe agorodd ei ddrysau bum mlynedd yn ddiweddarach.

Yn ystod yr ail gam yn y datblygiad, cafodd miliynau o bunnoedd eu codi i ariannu theatrau llawfeddygol, sganiwr MRI a’r unig uned gofal critigol arbenigol i blant yng Nghymru.

Cafodd yr ysbyty ei lansio’n derfynol yn 2015 fel Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru ac erbyn heddiw, mae’n darparu gofal arbenigol, yn aml er mwyn achub bywydau, i oddeutu 73,000 o blant a phobol ifanc bob blwyddyn.

Y tu hwnt i’r gofal sy’n cael ei ddarparu, mae’r ysbyty yn ceisio cynnig gwasanaeth i’r plant a’u teuluoedd fel bod mynd i’r ysbyty yn brofiad llai brawychus iddyn nhw, ac yn rhywle sy’n gallu cynnig ychydig o hapusrwydd yn ystod cyfnod sy’n gallu bod yn anodd.

Ymrwymiad i helpu pobol yn y gymuned

Yn ôl Julian Winter, Prif Weithredwr Clwb Pêl-droed Abertawe, mae’r Elyrch “wedi ymrwymo i helpu’r rheiny yn y gymuned sydd ei angen e fwyaf”.

Mae’n dweud bod y clwb wedi derbyn llu o awgrymiadau, a’u bod nhw wrth eu boddau o gael creu partneriaeth gydag Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru.

“Maen nhw’n gwneud gwaith diflino er lles plant ledled Cymru ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at eu cefnogi nhw, tra bydd y clwb hefyd yn rhoi arian i Joseph’s Smile a Thŷ Olwen – dwy elusen arall sy’n agos at ein calonnau,” meddai.

Yn ôl Suzanne Mainwaring, mae’r elusen “wedi cyffroi’n fawr iawn” o gael cydweithio â Chlwb Pêl-droed Abertawe.

“Mae Ysbyty Arch Noa i Blant Cymru’n gofalu am 73,000 o blant bob blwyddyn, sy’n ddigon i lenwi Stadiwm Swansea.com ryw dair gwaith a hanner,” meddai.

“Fel unig ysbyty plant arbenigol Cymru, rydym yn gwybod y bydd nifer o gefnogwyr Abertawe wedi bod angen y gwasanaeth eu hunain neu’n adnabod teuluoedd sydd wedi ei angen e.

“Bydd y bartneriaeth hon yn mynd ymhell wrth sicrhau y gallwn ni barhau i ddarparu’r gorau drostyn nhw.

“Fe fu’r blynyddoedd diwethaf yn rhai anodd eithriadol i deuluoedd Arch Noa, gyda nifer ohonyn nhw’n gorfod treulio cyfnodau hir ar wahân yn sgil cyfyngiadau’r pandemig.

“Yn ystod yr argyfwng, fe wnaethon ni ganolbwyntio tipyn ar gefnogi’r ysbyty a’u teuluoedd ym mha bynnag ffordd oedd ei angen.

“Ond nawr yw’r amser i symud ymlaen â’r cynlluniau niferus sydd gennym i wella bywydau plant Arch Noa, ac rydym mor hapus y bydd teulu Abertawe’n rhan o hynny yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.

“Hoffem ddweud diolch yn fawr iawn i bawb wnaeth bleidleisio drosomn ni, ac rydym yn dymuno pob lwc i dîm Abertawe ar gyfer y tymor sydd i ddod.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn at baru gyda’r clwb yn ein nod barhaus o greu heddiw mwy llewyrchus ac yfory gwell ar gyfer plant Cymru.”