Mae tîm criced Morgannwg allan o Gwpan Royal London er iddyn nhw drechu Swydd Gaerwrangon o 19 rhediad yng Nghaerwrangon.

Roedd rhaid iddyn nhw ennill, a dibynnu ar Swydd Gaerhirfryn i guro Caint a Hampshire i guro Swydd Efrog.

Ond er i Hampshire eu helpu, diolch i 76 gan y Cymro a chyn-fatiwr Morgannwg Aneurin Donald, daeth y fuddugoliaeth i Gaint oddi ar belen olaf ond un y gêm i chwalu gobeithion y sir Gymreig.

Yn gynharach yng ngêm Morgannwg, tarodd Sam Northeast 177 heb fod allan, y sgôr gorau erioed gan fatiwr y sir mewn gemau undydd, gan drechu 169 y cyn-gapten Jacques Rudolph.

Mae’n golygu bod gan Northeast y record undydd a’r record yn y Bencampwriaeth (410 heb fod allan) i Forgannwg erbyn hyn.

Adeiladodd Northeast a Billy Root (113 heb fod allan) bartneriaeth o 245 am y bedwaredd wiced wrth i Forgannwg sgorio 356 am dair yn eu 50 pelawd.

Collodd Swydd Gaerwrangon wicedi’n rhy aml, a gorffennodd y troellwr llaw chwith Prem Sisodiya gyda thair am 76, gyda dwy wiced yr un i James Weighell a throellwr arall, y capten Kiran Carlson.

Gyda sylw pawb wedi troi at y gêm yng Nghaergaint, roedd angen tair wiced ar Swydd Gaerhirfryn yn y belawd olaf i gadw gobeithion Morgannwg yn fyw, ond tri rhediad yn unig ar Gaint, hen dîm Northeast, ar ôl i’w hen dîm arall, Hampshire, wneud ffafr â’r Cymry.

Aeth tri oddi ar chwe phelen yn dri oddi ar dair pelen, yn ddau oddi ar ddwy ac fe ddaeth y fuddugoliaeth ag un belen yn weddill o’r ornest.