Mae tîm criced Morgannwg yn teithio i Gaerwrangon heddiw (dydd Mawrth, Awst 23) gan wybod fod yn rhaid iddyn nhw ennill a bod angen i ganlyniadau sawl gêm arall fynd o’u plaid nhw os ydyn nhw am gyrraedd rowndiau olaf Cwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd enillon nhw y tymor diwethaf.

Mae Swydd Gaerwrangon eisoes allan o’r gystadleuaeth, ond mae’n rhaid i Forgannwg ennill, gwella eu cyfradd sgorio a gobeithio bod Caint yn colli gartref yn erbyn Swydd Gaerhirfryn a bod Swydd Efrog yn colli gartref yn erbyn Hampshire ac yn gorffen â chyfradd sgorio is na Morgannwg.

Bydd yn rhaid i Forgannwg ymdopi heb Colin Ingram, y batiwr llaw chwith sydd wedi gadael i chwarae yn y Caribbean Premier League am weddill y tymor hwn.

Mae e wedi sgorio 569 mewn pum gêm yn y Bencampwriaeth, gan gynnwys tri chanred, a 342 o rediadau ar gyfartaledd o 68 mewn gemau 50 pelawd, gan gynnwys 155, ei sgôr gorau erioed, yn erbyn Caint.

Ond un fydd yn gobeithio manteisio ar ei absenoldeb yw Tom Bevan, y batiwr 22 oed oedd wedi taro canred i’r sir yn erbyn Hampshire yng Nghastell-nedd yr wythnos ddiwethaf.

Gemau’r gorffennol

Hon fydd gêm Restr A gyntaf Morgannwg yn New Road ers 2010, pan enillodd y Saeson o 178 o rediadau wrth i Moeen Ali daro canred, gyda Shakib al-Hasan, bowliwr rhyngwladol Bangladesh, yn cipio pedair wiced am 31.

Ddwy flynedd cyn hynny, enillodd y Saeson o saith wiced.

Morgannwg oedd yn fuddugol yn 2005, a hynny o bum wiced, er i Stephen Moore daro canred i’r Saeson cyn i David Hemp, Mike Powell a Sourav Ganguly daro hanner canred yr un.

Swydd Gaerwrangon oedd yn fuddugol yn 2003, a hynny o dri rhediad, ond y sir Gymreig aeth â hi o 22 rhediad yn 2002, a chafodd y gêm yn 2001 ei chanslo oherwydd y tywydd.

Carfan Swydd Gaerwrangon: E Pollock, T Cornall, J Libby (capten), E Barnard, B Cox, G Roderick, J Leach, R Evitts, D Pennington, J Tongue, A Finch, B Gibbon, H Cullen, O Davidson

Carfan Morgannwg: K Carlson (capten), T Bevan, C Cooke, J Cooke, T Cullen, D Douthwaite, A Gorvin, S Northeast, B Root, A Salter, P Sisodiya, C Taylor, J Weighell

Tân Cymreig

Daw gêm Morgannwg drannoeth buddugoliaeth Southern Brave o naw wiced dros y Tân Cymreig yn y Can Pelen yng Nghaerdydd.

Tarodd y Gwyddel Paul Stirling 74 heb fod allan oddi ar 42 o belenni, sgôr uchaf erioed Southern Brave, mewn partneriaeth o 121 am y wiced gyntaf gyda Quinton de Kock, sydd hefyd yn record am y wiced gyntaf yn y Can Pelen a thri rhediad yn brin o’r record am unrhyw wiced gan D’Arcy Short a Dawid Malan i’r Trent Rockets yn erbyn Southern Brave y llynedd.

Sgoriodd y Tân Cymreig 129 am wyth oddi ar eu can pelen, ac er gwaetha’r glaw, llwyddodd y Saeson i gyrraedd y nod i adael y tîm Cymreig heb fuddugoliaeth mewn pum gêm yn olynol ac yn ceisio’u pwyntiau cyntaf yn y gystadleuaeth.

Colli hefyd oedd hanes y merched, wrth i Sophia Dunkley daro 49 i’r Saeson.

Sgorfwrdd: https://www.espncricinfo.com/series/royal-london-one-day-cup-2022-1297661/worcestershire-vs-glamorgan-group-b-1298027/live-cricket-score

 

Tom Bevan

Canred undydd cyntaf i fatiwr ifanc o Gaerdydd wrth i Forgannwg drechu Hampshire

Sgoriodd Tom Bevan 134 yn y fuddugoliaeth o saith wiced yng Nghastell-nedd