Sgoriodd Tom Bevan, y batiwr ifanc o Gaerdydd, ei ganred undydd cyntaf erioed (134) i’r tîm cyntaf wrth i dîm criced Morgannwg drechu Hampshire o saith wiced yng Nghwpan Royal London, y gystadleuaeth 50 pelawd, yng Nghastell-nedd.

Roedd y sir Gymreig eisoes allan o’r gystadleuaeth, i bob pwrpas heblaw eu bod cyfres annhebygol o ganlyniadau, ar ôl colli ar y Gnoll ddechrau’r wythnos, a’u gwrthwynebwyr yn ddi-guro.

Ond ar ôl i’r Saeson sgorio 228 am naw wrth fatio gyntaf, gan gynnwys 93 i’r capten Nick Gubbins a 63 heb fod allan i Ian Holland, cyrhaeddodd Morgannwg y nod mewn 31.4 o belawdau, gyda Colin Ingram heb fod allan ar 78 yn ei gêm olaf cyn teithio i’r Caribî ar gyfer y Caribbean Premier League.

Mae Tom Bevan, sy’n 22 oed, yn fab i Huw Bevan, yr hyfforddwr ffitrwydd oedd wedi arwain adolygiad allanol Morgannwg pan gafodd Robert Croft ei ddiswyddo a swydd y prif weithredwr Hugh Morris ei hollti’n ddwy wrth iddo ildio’i rôl yn Gyfarwyddwr Criced y sir yn 2018.

Cyrhaeddodd Bevan ei ganred oddi ar 88 o belenni, gan daro wyth chwech.

Er gwaethaf batiad Nick Gubbins, oedd wedi sefydlogi’r batiad i’r ymwelwyr, collodd Hampshire bum wiced cyn iddyn nhw gyrraedd y cant, ond ychwanegodd Gubbins a Holland 72 am y chweched wiced.

Sgorion nhw 29 rhediad yn unig mewn deg pelawd yng nghanol y batiad, ond fe wnaethon nhw gyflymu’r gyfradd rywfaint wrth i Gubbins arwain, gan gyrraedd ei hanner canred oddi ar 72 o belenni.

Cyrhaeddodd Holland ei hanner canred yntau oddi ar 52 o belenni yn niwedd y batiad, wrth i’r Saeson lwyddo rywsut i sgorio 228 am naw.

Batio gwael y Saeson

Roedd dau newid yn nhîm Morgannwg, gyda Billy Root a Dan Douthwaite wedi’u cynnwys yn lle Sam Northeast (salwch) a Ruaidhri Smith (anaf).

Wrth i Douthwaite gymryd y bêl newydd, doedd hi ddim yn hir cyn iddo fe fowlio Ben Brown i adael y Saeson yn 17 am un, a tharo coes Tom Prest o flaen y wiced, a’r sgôr yn 35 am ddwy.

Yn erbyn ei hen dîm, cafodd y Cymro o Abertawe, Aneurin Donald, ei redeg allan gan Carlson wrth i’r ymwelwyr golli eu trydedd wiced, ond roedd Hampshire yn 54 am bedair pan gafodd Fletcha Middleton ei daro ar ei goes o flaen y wiced gan Andy Gorvin, y chwaraewr amryddawn a gododd drwy rengoedd Hampshire.

Yn fuan ar ôl i Gubbins gyrraedd ei hanner canred, cafodd Toby Albert ei ddal gan Chris Cooke oddi ar fowlio James Weighell ac roedd Hampshire yn 99 am bump.

Daeth batiad Gubbins i ben pan gafodd ei ddal gan Root oddi ar fowlio Carlson, a daeth 171 am chwech yn 176 am saith wrth i Prem Sisodiya, y troellwr llaw chwith, daro coes Keith Barker o flaen y wiced cyn i Scott Currie gael ei ddal gan y wicedwr Cooke oddi ar fowlio Gorvin.

Cafodd John Turner ei redeg allan oddi ar belen ola’r batiad, ar ôl i Hampshire frwydro’n ôl i sicrhau sgôr parchus, 228 am naw.

Cwrso

Ar ôl i Chris Cooke gael ei ddal gan Ben Brown oddi ar fowlio Ian Holland heb sgorio i adael Morgannwg yn saith am un yn yr ail belawd, daeth Colin Ingram i’r llain am y tro olaf y tymor hwn.

Ben draw’r llain, cyrhaeddodd Bevan ei hanner canred oddi ar 49 o belenni gydag ergyd am chwech oddi ar folwio Jack Campbell, gyda chyfres o ergydion i’r ffin am bedwar yn sicrhau bod y pâr yn cyrraedd y bartneriaeth o gant.

Cyrhaeddodd Ingram ei hanner canred yntau oddi ar 55 o belenni, gyda’r ddau yn parhau i ganfod y ffin, ac fe ddaeth canred Bevan gydag ergyd am chwech – ei chweched yn y batiad – gyda’r bêl yn teithio ymhell dros y pafiliwn.

Ar ôl i’r clatsio barhau, cafodd Bevan ei ddal yn y pen draw gan Albert yn sgwâr ar y ffin ar ochr y goes, gyda phartneriaeth Bevan ac Ingram un rhediad yn brin o record Steve James ac Adrian Dale am yr ail wiced – yn erbyn Swydd Lincoln yn Abertawe yng Nghwpan NatWest yn 1994.

Cafodd Carlson ei ddal yn sgwâr ar yr ochr agored gan Fletcha Middleton oddi ar fowlio Scott Currie, ond chafodd Morgannwg fawr o drafferth wrth gyrraedd y nod.

‘Profiad swreal’

“Os dw i’n onest, dw i dal yn methu amgyffred beth dw i newydd ei wneud,” meddai Tom Bevan.

“Roedd e’n shwd brofiad swreal sgorio fy nghanred cyntaf.

“Dw i wedi bod ynghlwm wrth y clwb ers amser hir, ac mae’n deimlad arbennig iawn.

“Roedd y llain yn eitha’ gludiog i ddechrau, felly roedd hi’n anodd dod yn gyfforddus.

“Yn amlwg roedd batio gyda Colin Ingram yn dda, mae e mor bwyllog ac yn ei chadw hi’n syml.

“Dw i’n sicr ar fy ngorau wrth gadw pethau’n syml.

“Dw i wedi perfformio’n dda yr haf yma, sy’n rhoi hyder i fi, dw i’n mynd gyda’r llif, dw i jyst yn hapus i chwarae criced, yn gweld y bêl a bwrw’r bêl.

“Dw i wedi bod yn ffodus iawn o gael y cyfle i chwarae criced i’r ail dîm eleni, felly dw i jyst yn hapus i gario ymlaen i sgorio rhediadau.

“Roedd cyrraedd fy nghanred gyda chwech yn deimlad arbennig.

“Roedd hi’n fater o adeiladu partneriaeth a mynd yn nes ac yn nes heddiw. Siaradais i a Colin dipyn am hynny yn y canol, ac fe wnaethon ni hwylio’r don ac fe wnaeth yr ergydion i’r ffin barhau i ddod.

“Mae’n bwysig ennill ac mae hi jyst yn braf cael ennill eto i bob un ohonon ni.

“Gobeithio bod hyn yn ein rhoi ni’n ôl ar rediad da, a gobeithio y bydd e’n help i’n gwthio ni ar gyfer y dyrchafiad pan ddaw hynny.”

‘Diolch’

“Es i i ffwrdd i’r brifysgol ym Met Caerdydd, oedd yn gam enfawr i fi,” meddai’r cyn-ddisgybl yn Ysgol Millfield.

“Es i i Cape Town ar ôl hynny, a dw i wedi bod yn hapus erioed i fod yn chwarae a manteisio ar yr holl gyfleoedd wrth iddyn nhw ddod.

“Mae fy nhad wedi bod yn help enfawr i fi, hyd yn oed pan dw i heb fod yn sgorio rhediadau mae e bob amser yn fodlon taflu peli i fi.

“Alla i ddim diolch digon i’r holl hyfforddwyr sydd wedi fy helpu ar hyd y daith.

“Os daw’r cyfle gyda’r bêl goch, dw i’n barod i gymryd fy nghyfle. Os na, dw i’n hapus i aros a pharhau i wella a mwynhau fy nghriced yng ngemau’r ail dîm.

“Bydda i bendant yn mynd ag atgofion braf i ffwrdd gyda fi o Gastell-nedd heddiw.”